yn sancteiddio ac yn glanhau yr eglwys â'r olchfa ddwfr trwy y gair. 1 Cor. i. 30; Eph. v. 26. Ond er mai yn ei wirionedd y mae yr Yspryd Glân yn sancteiddio, y mae hefyd yn defnyddio triniaethau tymhorol yn wasanaethgar i hyny. A thuag at gynnyddu mewn gras a gwybodaeth ysprydol, byddai yn fantais fawr i ni gofio yn wastad, nad oes yr un o droion Rhagluniaeth heb feddu rhyw lais tuag atom a rhyw bwrpas arbenig yn ngolwg yr Hwn nad oes dim yn digwydd i ni hebddo Ef. 1 Sam. ii. 2; Galar. iii. 37-42. Ac os y'n rhwymir weithiau â gefynau ac y'n delir â rhaffau gorthrymder, yna Efe a ddengys i ni ein gwaith o grwydro mewn meddwl neu ymddygiad at yr hyn sydd o'i le, neu esgeuluso gwneyd yr hyn a ddylasem ei gwblhau: a bod ein hanwireddau drwy hyny wedi amlhau yn ei olwg Ef. Ei amcan caredig yn gosod arnom boen corph neu ofid meddwl ydyw, agor ein clustiau i dderbyn cerydd, a dyweyd wrthyın am droi oddiwrth anwiredd a chymmeryd yn fwy at y gwirionedd. Job xxxvi. 8-10. Fel y gellir ystyried fod Duw trwy oruchwyliaethau gerwin yn glanhau anwiredd Jacob, ac mai dyma yr holl ffrwyth, tynu ymaith ei bechod: am ein bod mewn profedigaethau yn cael ein dwyn yn fwy argyhoeddedig o'r gwirionedd mai pechaduriaid aflan ydym a'n hangen mawr am edifeirwch a maddeuant. Yna yr ydym yn cael ein cyfeirio gan y gwirionedd at Iesu Grist am yr edifeirwch, a'r maddeuant, a'r glanhad yr ydym drwy y cyfyngderau wedi dyfod yn fwy argyhoeddedig o'n hangen o honynt. A gresyn mawr ydyw i ni golli y fantais mae pob gofid yn roddi i ni i ddyfod yn fwy gwybyddus o'n camweddau a'n diffygion fel ag i dramwy o gymmaint a hyny yn amlach at yr Arglwydd Iesu am y feddyginiaeth. Oblegid y mae pob cynnydd mewn gras a gwybodaeth ysprydol yn gynnydd hefyd mewn gwir ddiddanwch ac happusrwydd. Es. xxvii. 9, Ps. lxxi. 20, 21. Ac wrth i bob un o'r aelodau mewn eglwys gynnyddu mewn sancteiddrwydd, y mae Sion yn sicr o fod yn gwisgo ei nerth ac yn ymdecau yn ngwisgoedd ei gogoniant. Mae mwy o nerth a phrydferthwch mewn ychydig o aelodau wedi dyfod yn mlaen mewn sancteiddrwydd nag mewn eglwys luosog os yn ddioruchwyliaeth ei hyspryd. Es. lii. 1. Gan hyny, er mwyn llwyddiant personol a
Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/95
Gwedd