Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddibaid. 'Gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd a gweddio yn yr Yspryd Glân.' Drwy chwenychu didwyll laeth y gair, a myfyrio ar y pethau sydd ynddo ac aros ynddynt, felly y daw ein cynnydd yn eglur i bawb. Judas-20; 1 Petr ii. 2; 1 Tim. iv. 15. Nis gall aelod wneyd cynnydd mewn gras a gwybodaeth ysprydol ond trwy ddyfod, ar un llaw, i gyssylltiad agosach â'r Yspryd Glân mewn ymofyniad gwastadol am dano ac ymddibyniad didor arno; ac ar y llaw arall, dyfod yn fwy gwybyddus ac argyhoeddedig o wirionedd a phwysigrwydd y pethau am yr Iesu. Dywedir ein bod yn ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Yspryd ef, yn y dyn oddi mewn; a bod hyn yn beth sydd yn cael ei roddi o hono Ef i ni: ac yn ol yr adnod nesaf cawn bod hyn yn nglŷn â thynu yr Arglwydd Iesu, mewn ffydd ar y gwirioneddau am dano, i drigo yn ein calonau. Wrth dynu i fewn yr Arglwydd Iesu i ddeall a serch y galon, mewn ffydd ar yr amlygiadau y mae wedi roddi o hono ei hun yn ei eiriau, a hyny drwy ei Yspryd Ef, yna y mae y dyn oddi mewn yn cael ei borthi â bwyd yn wir ac â diod yn wir. Dyna'r modd yr ydym i ymgadarnhau mewn nerth ac i gynnyddu gan gynnydd Duw. Eph. iii. 16 a'r 17. Gan hyny, os mynwn gynnyddu mewn gras, dylem fod yn wiliadwrus iawn trwy bob dyfal-bara i weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Yspryd, ac i ymarfer yn barhaus â gwirioneddau y Beibl yn eu perthynas â Iesu Grist. Eph. vi. 16--19.

O'r tu arall, gellir gwybod faint ydym yn myned tua chyfeiriad o'n blaen, wrth faint ydym yn bellhau oddiwrth gyfeiriad sydd o'n hol. Gall pob un wybod faint y mae yn gynnyddu yn yr amrywiol rasau, wrth faint y mae yn gashau ac yn adael ar y drygau croes iddynt. Cynnyddu yn y grasau o ffydd a gobaith, a chariad, addfwynder, gostyngeiddrwydd, amynedd, haelioni, diolchgarwch, &c., ydyw ffieiddio a gadael yn fwy bob teimladau ac arferion diras a chroes i'r naill neu y llall o'r rhinweddau. Cynnyddu mewn sancteiddrwydd, o un tu, ydyw darfod âg aflendid mewn cyffyrddiad âg ef a thuedd meddwl tuag ato; ac o'r tu arall, dyfod i gydsynio a chydweithredu yn fwy unol âg ewyllys yr Arglwydd. Iesu Grist sydd wedi ei wneuthur i ni gan Dduw yn sancteiddrwydd, a'r Yspryd Glân sydd