y gollwng y tŷ ddefni.' Preg. x. 18. Ac i ochel dirywiad fel Eglwys, ystyriwn yn
I. FOD LLWYDDIANT YR HOLL AELODAU MEWN UNDEB A'U GILYDD YN OL FEL Y BYDDO POB UN YN LLWYDDO AR EI BEN EI HUN.
Mae yr Eglwys yn gyffredinol yn cael ei gwneyd i fyny o bersonau unigol; ac y mae ansawdd yr holl aelodau mewn undeb â'u gilydd yn cael ei wneyd i fyny o ansawdd pob aelod ar ei ben ei hun. A thuag at lwyddiaut cyffredinol, fe ddylai pob un yn yr Eglwys ymdrechu at gynnydd personol, yn un peth ac yn mlaenaf oll, mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.
Mae yr Arglwydd Iesu yn ei Berson yn ffynnonell pob gras i ni, ac yn ei gymmeriad sanctaidd yn gynllun o'r modd y mae pob gras i ymagor a gweithredu. Nid oes dim cynnydd yn bosibl heb berthynas yn gyntaf â Christ; ac y mae graddau y cynnydd yn ol fel y denwn ni i sylweddoli y berthynas hono. Wrth fod mewn undeb eglwysig, yr ydym yn proffesu ein bod yn aelodau o gorph Crist, yr hwn yw pen yr Eglwys; a'n bod yn cael ein treiddio gan yr un bywyd, yn cydsynio â'r un ewyllys, ac yn ymestyn at yr un amcanion. Un corph sydd; a hwnw yn cael ei wneyd i fyny o'r Arglwydd Iesu fel pen, a'i wir ddisgyblion fel aelodau: ac un Yspryd sydd yn yr holl gorph. Yr Yspryd Glân sydd yn gwneyd perthynas â Christ yn rhinweddol a theimladwy i bob aelod, am ei fod Ef yn trigo yn y Pen ac yn mhob un o'r aelodau. O'r Arglwydd Iesu fel pen y mae yr holl gorph yn derbyn lluniaeth, ond y mae y lluniaeth hwnw yn cael ei dderbyn a'i rinweddu er ein cryfhad trwy yr Yspryd Glân. Fel y dywedir ein bod yn derbyn lluniaeth o'r Pen Mawr, ac yn cynnyddu gan gynnydd Duw. Trwy un Yspryd yr ydym yn dyfod i fewn i'r corph, ac ni a ddiodwyd oll i un Yspryd, ac yr ydym drachefn yn cynnyddu mewn gobaith trwy nerth yr Yspryd Glân. Col. ii. 19; 1 Cor. xii. 13; Rhuf. xv. 13.
Ffynnonell y cynnydd, fel yna, ydyw Iesu Grist, a gweithredydd y cynnydd ydyw yr Yspryd Glân. Y modd eto y mae y cynnydd hwnw yn cael ei gyrhaedd gan bob un ydyw, trwy weithredu ffydd ar wirioneddau y Beibl yn eu perthynas â Christ, a gweddïo yn