oddiwrth ei gyssegr. Ezec. viii. 6. Yr wyf yn gobeithio y bydd Hanes yr achos o'i ddechreuad yn foddion ar un llaw, i gadw yn nghôf yr Eglwys y defnyddiau cysur a chefnogaeth sydd yn ymddygiadau Duw tuag ati drwy'r blynyddoedd; ac ar y llaw arall, i ymgadw rhag anghofio ei rhwymedigaethau lluosog a pharhaus i lynu wrtho eto mewn cyflawniad parod o'r holl ddyledswyddau mae yn ofyn ganddi. Byddai Moses yn calonogi y bobl i fyned yn erbyn y gelynion a'r rhwystrau oedd o'u blaen drwy alw i'w côf y gwaredig. aethau rhyfedd oedd wedi cymmeryd lle yn eu hanes. Dywedodd wrthynt y gwnai yr Arglwydd i'r cenhedloedd oedd o'u blaen yn Nghanaan fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, breninoedd yr Amoriaid, ac i'w tir hwynt, y rhai a ddinystriodd efe. Deut. xxxi. 4. Cymmerwn ninau galon oddiwrth yr hyn a wnaed eisoes yn ein Hanes gan yr Arglwydd, a pharhawn i ddyweyd o hyd fel Dafydd, 'Ti sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau a nerthu pob dim;' ac i ddymuno o hyd nad ymadawo Efe â ni ac na'n gwrthodo hyd nes gorphen holl waith gwasanaeth tŷ yr Arglwydd. 1 Chron. xxviii. 20, a xxix. 12.
Bellach ein doethineb ydyw edrych arnom ein hunain fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr. 2 Ioan, 8; Dat. ii. 25 a 26. Y ffordd i beidio myned yn ol ydyw cadw ein golwg o hyd ar fyned yn mlaen-gosod rhyw nôd perffeithiach o'n blaen i ni ymgyraedd ato yn bersonol ac mewn undeb â'n gilydd. Ac os ceir yr hyfrydwch o gyraedd y nôd hwnw, peidio dechreu sefyll nac arafu dim wed'yn, ond gosod yn union nôd pellach drachefn i gyrchu ato, a pheidio byth a llwfrhau. Y prawf ein bod yn dal yr hyn sydd genym ac nad yw ein coron ar gael ei dwyn oddiarnom ydyw, ein bod yn ymgyraedd yn ddiorphwys am ychwaneg. Ac os wedi cael addoldŷ hardd a chysurus, a thefniadau allanol lled gyflawn, yr eir yn ddiofal ac i segur-dybied yr aiff pethau yn mlaen bellach o honynt eu hunain, ceir yn fuan deimlo fod rhyw wywdra anhyfryd yn ymdaenu drosom ac yn ein hyspeilio o'n gogoniant. 'Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad; ac wrth laesu y dwylaw