llawn gwell at yr holl gasgliadau eraill nag a wnaed erioed. Ceir ynddo ar y sabboth ddwy bregeth; ysgol gyda chyfarfod i'r plant o'i blaen; a chyfarfod canu; a chyfarfod i'r Eglwys ar ddiwedd gwasanaeth yr hwyr; ac yn y misoedd goleu, gyfarfod i weddïo am saith yn y boreu. Ar nosweithiau yr wythnos ceir cyfarfod i weddïo, a chyfarfod eglwysig, a chyfarfod i'r chwiorydd, a chyfarfod i ddysgu canu, a chyfarfod Blodau yr Oes i'r plant, a chyfarfod darllen i'r gwŷr ieuainge. Nid oes na rhyw nac oedran yn fyr o ddarpariaeth wythnosol ar eu cyfer, nac un ddawn yn cael ei hesgeuluso. Mae yn amlwg wrth hyn y gall y rhai sydd wedi bod mewn cyssylltiad â'r achos y blynyddau diweddaf, gydnabod gyda diolchgarwch i'r Arglwydd, eu bod hwythau wedi cael eu defnyddio i osod gwedd lawer ragorach, o leiaf yn allanol, ar Fethodistiaeth y dref. Cadwn ein henaid yn ddyfal rhag anghofio mai o'r Arglwydd y daeth hyn. Ac wrth ystyried mai i weision annheilwng ac anfuddiol y daeth, fe ddylai hyn fod yn dra rhyfedd yn ein golwg ni. Ond cawsom rhyw rym gan yr Arglwydd i weithio yn ewyllysgar gyda'n gilydd; canys oddiwrtho Ef y mae pob peth. 1 Chron. xxix. 14. Ofer fuasai i'r adeiladwyr fod yn llafurio gyda'r tŷ pe na buasai yr Arglwydd yn eu cyfarwyddo ac yn eu hamddiffyn; ac os na bydd i'r Arglwydd eto gadw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. Psalm cxxvii. 1. Peth o'r pwys mwyaf i Eglwys ydyw priodoli pob da yn eu mysg i Dad y trugareddau a Duw pob diddanwch, ac ymwneyd digon âg Ef gogyfer â'r hyn sydd eto yn mlaen.
Mae yn ddiau nad yw yr adfeiliad oedd Moses yn nodi allan fel un peryglus i bobl yr Arglwydd ar ol myned i Ganaan gynt, ddim yn un nad all yr achos yn yr addoldŷ newydd syrthio iddo. Mae cryn berygl i ninau wedi adeiladu y tŷ a thrigo ynddo, ac amlhau o arian ac aur genym, ac amlhau o'r hyn oll sydd genym, yna ymddyrchafu o'n calon ac anghofio o honom yr Arglwydd ein Duw, yr hwn a'n dug ni allan o'r caethiwed, ac a'n tywysodd ni trwy yr anialwch ac a barodd i ni ein holl lwyddiant. Deut. viii. 11-18. Hawdd iawn mewn byd drwg ac mewn tref mor lygredig ydyw i Eglwys lithro o dipyn i beth at ryw arferion fydd yn gyru yr Arglwydd yn mhell