Os bydd y llyfr yn foddion i gadw yr Eglwys rhag anghofio yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd ei Duw hi ynddi, a'r pethau gwerthfawr a welodd ei llygaid yn y blynyddau a aeth heibio; a'i chynhyrfu at ddyledswyddau cyfattebol i'w breintiau a'i gallu am yr hyn sydd yn mlaen, fe fydd o wasanaeth ammhrisiadwy. Gwelir yn yr Hanes mai un o bethau distadl a dirmygus y byd ydoedd yr achos yn ei ddechreuad. Ond yr oedd er hyny yn un o'r gwan-bethau y byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn. Bu am lawer o flynyddau yn gorphwys yn benaf ar ysgwyddau un teulu; a phan fu farw y rhai hyny, ofnai yr ychydig weiniaid oedd yn aros mai diffodd yn llwyr a wnai yr achos yn fuan wed'yn. Ond er mai ychydig oedd o honynt, a'u lle i addoli yn gyfyng, ac isel ei sefyllfa ar y dref, a'u cylch o freintiau crefyddol yn lled anghyflawn, eto 'gorfuant y rhwystrau i gyd wrth bwyso ar yr Arglwydd eu Duw. 2 Chron. xiii. 18. A phan y gwelir yr eglwys yn cael gwared oddiwrth anhawsderau o un math, ceir fod profedigaethau o fath arall yn ymosod, eto gwelir yr eglwys yn dyfod yn mhen amser drwy bob math o dywydd a chyfnewidiadau ar ei mantais mewn nerth a rhifedi. Mae yn anhawdd i ni yn awr mewn amgylchiadau mor wahanol, wrth edrych yn ddynol ar bethau, roddi cyfrif pa fodd y bu i dadau a mamau yr Eglwys Fethodistaidd yn Ngwrecsam, pan mewn cymmaint o wendid ac yn nghanol cymmaint o rwystrau, gynnal yr achos, a chodi addoldai a thalu am danynt, a chychwyn achosion mewn lleoedd o amgylch. Yr unig gyfrif dros fod yr achos yn eu dwylaw wedi dal ei ffordd ac ychwanegu cryfder, a chael ei drosglwyddo ganddynt mewn gwedd mor dda i'w plant ydyw, mai arfer Duw ydyw 'dangos ei hun yn gryf gyda'r rhai sydd a'u calon yn berffaith tuag ato ef.' 2 Chron. xvi. 9.
Erbyn hyn gellir dyweyd bod yr achos ar ei draed, gyda gwedd allanol bur olygus, a chylch cyflawn o freintiau bob wythnos. Nid yw y capel fel o'r blaen mewn anfantais oddiwrth ei sefyllfa, na'i faint, na'i ymddangosiad. Mae yn un o'r addoldai mwyaf ardderchog a dymunol yn Nghymru, ac agos i bedair mil o bunnau o'i ddyled wedi eu talu yn ystod saith mlynedd o amser, heblaw gwneyd yn