Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â rhyfeddodau. Ac efe a'n dug ni i'r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl. Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd.' Deut. xxvi. Nid oeddynt, fel yna, i gael mwynhau tawelwch a ffrwythau eu gwlad heb gydnabod mai i'r Arglwydd yr oeddynt yn rhwymedig am y cwbl, ac heb gofio eu dechreuad bychan ac eiddil, a'r holl rwystrau a helbulon oeddynt wedi dyfod trwyddynt yn ddiogel, a'r holl lwyddiant a barodd yr Arglwydd iddynt. Yr oeddynt i gadw o hyd mewn côf y pethau rhyfedd a brofasant hwy eu hunain a'u tadau o'u blaen; ac i briodoli eu holl waredigaethau a'u breintiau nodedig i allu a daioni yr Arglwydd eu Duw.

Dan yr ystyriaeth o'r fantais i bob eglwys gael gwybod y modd y bu i'r achos mawr gael ei gychwyn a'i ddwyn yn mlaen i'r peth ydyw yn eu mysg, ac wrth weled nad oes yn Hanes Methodistiaeth Cymru nemawr grybwylliad am yr achos yn Ngwrecsam, daeth i fy meddwl pan yn gwasanaethu am chwe' sabboth yn Llundain, yn nechreu y flwyddyn 1865, i ysgrifenu at ein hen flaenor, Mr. Francis, i ofyn iddo ymgymmeryd â'r gorchwyl o gasglu hanes yr achos Methodistaidd yn nhref Gwrecsam. Ac er i'r awgrym hono gael ei gadael am gryn amser heb ei gosod mewn gweithrediad, eto drwy aflonyddu arno ychydig o weithiau drachefn, cafodd ar ei feddwl i ddechreu o ddifrif ar y gwaith. I ddwyn yr Hanes i'r peth ydyw, bu raid iddo wneyd llawer ymchwiliad a chymmeryd trafferth fawr. Ac y mae yn sicr pe na buasai iddo ef ysgrifenu yr hanes, nad oedd neb arall i'w gael o ran oedran a chyssylltiad â'r lle a'r achos a fuasai yn ddigon cyfarwydd i'w olrhain. A chan na bydd dygiad y gwaith allan yn nemawr o ennill tymhorol i'r awdwr, y mae yn wir deilwng o'n diolchgarwch. Yr un pryd yr wyf yn dysgwyl y bydd drwy yr Hanes yn ychwanegu at ei ddefnyddioldeb yma, a'i wobr yn y pen draw. Caiff aml un wrth ei ddarllen, mi a obeithiaf, achos i ddiolch i Dduw a chymmeryd cysur. Ac os daw ail-argraphiad allan o Hanes Methodistiaeth Cymru gydag ychwanegiadau, diau y bydd cryn ddefnyddiau yn y llyfr at roddi y pryd hwnw olwg gryno a theg ar yr achos yn Ngwrecsam.