Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ADDYSGIADAU ODDIWRTH YR HANES,
GAN Y PARCH. J. H. SYMOND.

At Fethodistiaid Calfinaidd Gwrecsam.

FY ANWYL GYFEILLION,
Cawn fod Moses, yr hwn a fu yn yr eglwys yn y diffaethwch, yn annog pobl yr Arglwydd drachefn a thrachefn, cyn eu gadael, i gofio yr holl ffordd oedd Duw wedi eu harwain ar hyd-ddi. 'Gochel arnat,' meddai, 'a chadw dy enaid yn ddyfal rhag anghofio o honot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i'th feibion, ac i feibion dy feibion.' Ac wedi iddynt gyraedd gwlad Canaan a dechreu mwynhau ei chysuron, dywed Moses wrthynt am gymmeryd o bob blaenffrwyth a'u gosod mewn cawell i'w dwyn i'r lle a ddewisodd yr Arglwydd i drigo o'i enw ynddo. Yna, pan y byddai yr offeiriad yn gosod y cawell ger bron yr Arglwydd, yr oedd yn gorchymyn i bob un ddyweyd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, 'Syriad ar ddarfod am dano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynodd i'r Aipht, ac a ymdeithiodd yno âg ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml. A'r Aiphtiaid a'n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled. A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a'n llafur a'n gorthrymder. A'r Arglwydd a'n dug ni allan o'r Aipht â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac âg ofn mawr, ac âg arwyddion, ac