Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddangos fod y tri brawd a enwyd wedi bod, ac yn bod, yn ffyddlon a gwasanaethgar yn Hill-street. Hill-street hefyd oedd cartref yr hen frawd y Parch. Wm. Hughes, ac yn y dref hon y bu efe farw.

Fe fu gweinidogaeth y Parch. Joseph Jones yn nghorph y deng mlynedd y bu yn Wrecsam, a'r amgylchoedd, yn dderbyniol a bendithiol, a theimlid colled ar ei ol pan yr ymadawodd.

Yn fuan ar ol ymadawiad y Parch. J. Jones, fe alwodd y brodyr yn Hill-street ar y Parch. E. Jerman i'w gwasanaethu, yr hwn yn awr sydd yn eu plith er pan yr ymadawodd Mr. Jones. Mae yn dda genym allu hysbysu fod y brawd ieuangc hwn yn llafurus a gweithgar, a'i holl ymdrechiadau yn cael eu coroni â bendith.

Nifer yr eglwys yn awr yn Hill-street, sef yr holl gymmunwyr, ydyw 70; yr ysgol sabbothol, 126; y gwrandawyr ar nos sabboth, oddeutu 200; ychydig yn llai o nifer ar foreu sabboth. Nifer y pregethwyr ydyw pump, sef y Parchedigion E. Jerman, T. Francis, J. Davies, a'r Meistri T. Phennah, a W. H. Williams. Yr unig ddiacon yn y lle ydyw Mr. Charles Hughes.

Mae golwg obeithiol, debygid, ar hyn o bryd, ar yr achos yn ei holl gyssylltiadau. Mae eu bugail, Mr. Jerman, yn hynod o'r llafurus gyda'r plant a'r bobl ieuaingc, a'i holl lafur yn bur dderbyniol ganddynt.