oeddynt Crab-tree Green, Tabernacl, Glanʼrafon, a Summer Hill. Yr oedd ei lafur yn ei flynyddoedd diweddaf wedi ei gyfyngu yn unig i'r Tabernacl a Gwrecsam. Bu Mr. Jones yn gweinyddu yn y ddau le diweddaf am oddeutu deng mlynedd. Ymadawodd o Wrecsam i Groesoswallt.
Ychydig, debygid, oedd nifer y gwrandawyr pan y daeth Mr. Jones i'w plith, ond pan yr ymadawodd yr oeddynt wedi cynnyddu yn fawr.
Yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Jones i'r dref, fe ddewiswyd Mr. Charles Hughes yn ddiacon yn y lle. Erbyn hyn yr oedd golwg ddymunol ar yr achos mewn llawer ystyr, a phobpeth yn cael ei gario yn mlaen yn rheolaidd, trefnus, a deheuig.
Gan fod y room, yn Bank-street, yn lle anghysurus i addoli, meddyliodd y brodyr am gael lle helaethach, a mwy cymhwys. Yn y flwyddyn 1856, a'r flwyddyn ganlynol, adeiladwyd addoldy newydd yn Hill-street, yn y dref, yr hwn yn awr sydd yn adeilad cymhwys o ran maint a lle. Dydd Gwener y Groglith, yn 1857, cyssegrwyd y lle hwn hefyd, pryd y cynhaliwyd ynddo gyfarfod pregethu. Gweinyddwydd ar yr achlysur gan y Parch. William Howells, Liverpool, yn awr athraw yn Athrofa Trefecca. Yr oedd nifer y cymmunwyr erbyn hyn yn 37, a'r ysgol sabbothol yn 70. Yr oedd hefyd, yn y lle, gynnulleidfa dda yn gwrando.
Yr oedd pob serchawgrwydd a charedigrwydd yn bodoli rhwng yr achos Cymraeg a'r un Seisonig. Ar ol i'r brodyr ymsefydlu o honynt yn eu capel newydd yn Hill-street, rhoddwyd rhyddid yn nghapel Abbot-street, ac annogaeth yn wir, os oedd rhyw rai yn dymuno ymuno â'r cyfeillion Seisonig, yn Hill-street, fod pob croesaw iddynt wneyd felly, er, ar yr un pryd, fod yn ddrwg gan y cyfeillion yn Abbot-street eu colli. Gan fod rhai yn Abbot-street yn deall yr iaith Seisonig yn well na'r Gymraeg, fe ymadawodd rhai, ac ymunasant â'r cyfeillion yn Hill-street. Dymunwyd ar bawb ag oedd ar fedr ymadael am wneyd hyny ar unwaith, fel na byddai yr eglwysi yn cael eu haflonyddu drachefn. Yn mhlith y rhai a adawsant Abbot-street, ac a aethant i Hill-street, yr oedd y Parch. T. Francis, Mr. T. Phennah, a Mr. W. H. Williams. Mae yn ym