Dechreuwyd yr achos Seisonig, yn y dref, yn niwedd y flwyddyn 1845. Ardrethwyd lloft eang yn nghanol hen warehouse yn Bankstreet, yr hon a adgyweiriwyd ac a wnaed yn fath o le i addoli. Y dydd yr ardrethwyd y lle, fe aeth y Parch. William Edwards ac a brynodd hen bulpyd y gwyddai am dano yn y dref, yna efe a ddywedai yn ei iaith ddigrifol ei hunan, 'Wel, de'wch lads, awn a'r hen bulpyd i'r room, i gymmeryd possession o'r lle.'
Y gareg sylfaen isaf yn adeiladaeth Methodistiaeth Seisonig yn y dref ydyw yr ysgol sabbothol; oblegid dyma ydoedd y moddion cyntaf o râs yn y lle. Enwau yr athrawon cyntaf oeddynt y Meistri Isaac Jones, Joseph Edwards, Arthur Jones, Owen Jones, ac un Mr. Edwards, Wheatsheaf. Dydd Nadolig, yn 1845, cafwyd cyfarfod pregethu, fel tro arbenigol i gyssegru'r lle, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Morgan, o'r Trallwm, ac eraill.
Yn mhen yspaid o amser, ar ol dechreu addoli yn y lle, fe gafodd yr achos fath o lewyg trwm, a bu agos iawn iddo a marw. Yn y cyfamser fe alwyd cyfarfod cyffredinol, pryd y daeth yr holl frawdoliaeth fechan yn nghyd, i ystyried pa beth oedd oreu i'w wneuthur odditan yr amgylchiadau, ai gadael iddo i drengu ai ynte arfer rhyw foddion effeithiol er ei adferu. Ar ol llawer o ymddiddan pwyllog yn y cyfarfod, yr oedd yn hawdd gweled mai y syniad cryfaf oedd iddo drengu a marw.
Yr hen frawd a thad y Parch. W. Hughes, yr hwn oedd yn y lle, yr hwn ar y pryd a deimlai i'r byw yn herwydd y peth, a safai yn fan ar ei draed, ac a ddywedai mewn iaith rymus, No, we will not let it die. Bu eiddigedd a sêl yr hen frawd ar y pryd, yn pledio dros yr achos, yn foddion effeithiol iddynt ail ymaflyd ynddo o ddifrif, fel o'r dydd hwnw allan y bu ei lwyddiant yn ddymunol.
Yn y flwyddyn 1855, y cyfeillion yn y lle, y rhai erbyn hyn oeddynt wedi ymgorphori yn eglwys fechan, a roddasant alwad unfrydol i Mr. Joseph Jones, Liverpool, i ddyfod i'w gwasanaethu fel bugail, i'r hon alwad hefyd y rhoddodd yntau ufydd-dod. Yr oedd amryw eglwysi bychain eraill yn y wlad, heb fod yn nepell o'r dref; rhoddwyd y rhai hyny hefyd odditan ei ofal. Y lleoedd hyny