Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi bod yn alluog i gael allan ond ychydig, er yn ddiammeu bod llawer pe deffroasid yn brydlon. Mae gorchudd amser wedi ei dynu rhyngom â llawer o bethau, fel nas gallwn erbyn heddyw eu gweled. Mae pob oracl mor ddystaw wrthym, o'r bron, â'r meirw sydd yn y beddau mae pob llaw, llygad, tafod a gwefus, fel pe wedi eu selio i fyny. Ar ol gwneuthur yr hyn a allem mewn ffordd o ymchwiliad, mae yn ddrwg genym ddyweyd, ein bod yn gorfod gadael y cyfnod hwn yn yr hanes, i raddau pell oddiwrthym, yn orchuddiedig gan niwl a thywyllwch.

Mae rhai canrifoedd wedi myned heibio yn hanes y byd, y rhai a adwaenir erbyn heddyw wrth yr enwad, 'oesoedd tywyll.' Ein teimlad galarus ninnau ar hyn o bryd ydyw, pan yn ceisio ymbalfalu i ddyfod allan o niwl y cyfnod y buom ynddo, ein bod wrth droi drach ein cefnau i geisio ail edrych arno yn gorfod ei restru, i raddau, yn mhlith yr oesoedd tywyll.' Gwnaethom ein goreu pan ynddo i osod i fyny rhyw lamp fechan, ond gwan iawn yw y llewyrch sydd yn ymwasgaru o honi.

Yn awr yr ydym yn dyfod i gyfnod yn yr hanes, lle yr ydym yn cael fod y niwl ag oedd o'r blaen yn cuddio oddiwrthym rai pethau pwysig, yn awr yn dechreu chwalu a diflanu, a mwy o oleuni ffeithiau yn ymwasgaru. Cawn o hyn allan, nid ymbalfalu yn y tywyllwch, ond rhodio yn y goleuni.