y gwrandawyr a gyrchent i'r lle, can lleied yn aml a deuddeg, neu bymtheg. Y lle gwael hwn, a'r nifer bychan a enwyd, oedd dechreuad gwan y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.
Gan fod pethau yn y sefyllfa a'r cysylltiadau y cyfeiriwyd atynt, dichon fod y frawdoliaeth fechan ag oedd yn Ngwrecsam, yn treulio un rhan o'r sabboth yn y dref, a'r rhan arall yn Adwy'r Clawdd.
Yr oedd amryw o'r cyfarfodydd eglwysig yn y blynyddoedd hyny yn yr Adwy ar foreu sabboth. Pa un ai cyn, neu ar ol pregethau, neu y cyfarfodydd gweddïo, nid ydym yn gwybod. Dichon mai dyma yr unig foddion o râs fyddai yn eu plith, ar brydiau o leiaf, ar foreu sabboth. Mae yn debyg yn y blynyddoedd cyntaf hyny, nad oedd y brodyr yn Ngwrecsam wedi ymffurfio yn eglwys reolaidd, oblegid yn un peth, fod eu nifer mor fychan, ac hefyd oblegid nad oedd y cymmwysderau a'r doniau, i fagu a meithrin mewn pethau ysprydol, mor helaeth a chyflawn ag y buasid yn dymuno. Yn y wedd yma, fe ddichon, y bu pethau am flynyddau, sef fod y brodyr yn Ngwrecsam yn ystyried eu hunain yn rhan o, ac mewn undeb â'r eglwys yn yr Adwy.
Mae hen wraig arall yn ein tref, yr hon sydd yn awr yn fyw, ac os da yr ydym yn cofio, yn agos i bump a phedwar ugain oed: hen wraig sydd a'i chymmeriad yn sefyll yn uchel fel un i ymddibynu arni am wiredd yr hyn a ddywed. Ei henw ydyw Mrs. Rowland. Clywsom hefyd â'n clustiau ein hunain, yr hen wraig hon yn adrodd wrthym, ei bod yn cofio yn dda, pan oedd hi yn eneth ieuangc, y byddai y Welsh people in the town, fel y galwai hi hwy, yn arfer cadw cyfarfodydd gweddïo yn y tai, ac y byddai hithau ar brydiau, er nad oedd yn deall nemawr ddim o'r iaith, yn myned i'r cyfarfodydd hyny er mwyn clywed y canu; ac mi dybiwn weithiau wrth yr hyn a ddywedai yr hen wraig, rywbeth tebyg i orfoledd crefyddol.
Gallai hyny fod, debygem, cyn adeiladu capel Pentrefelin, sef yn y blynyddoedd hyny pryd y byddai y pererinion hyn yn teithio i hen gapel Adwy'r Clawdd.
Buasai yn dra dymunol a dyddorol pe buasai genym fwy o ffeithiau mewn cysylltiad â'r achos yn y cyfnod hwn; y gwir ydyw, nid ydym