cyrchu. Yr oedd hen frawd yn Adwy'r Clawdd o'r enw Hugh Morris, Hugh Morris y teiliwr, fel y gelwid ef. Hen wr cywir a geirwir. Bu yr hen frawd hwnw fyw i fyned yn agos i bedwar ugain a chwe' blwydd oed, a bu farw rywbryd oddeutu'r flwyddyn 1847.
Clywsom yr hen frawd hwnw yn dyweyd ei fod yn cofio yr amser yn dda, pryd y byddai yr ychydig frodyr a chwiorydd, ag oedd yn Ngwrecsam, yn dyfod i fyny i'r seiat i Adwy'r Clawdd. Dyma hefyd, yn ol tystiolaeth Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, yr hwn sydd eto yn fyw, oedd sefyllfa pethau pan y daeth ef gyntaf i'r gymmydogaeth, yn 1802 neu 1803.
Er, fel yr hysbyswyd, mai Adwy'r Clawdd oedd eu Jerusalem, ac mai yno yr oedd eu teml; eto, y mae pob sicrwydd ar gael fod ganddynt eu synagog yn y dref hon, sef ystafell fechan i addoli ynddi, cyn adeiladu o honynt gapel Pentrefelin.
Mae hen wraig o'r enw Martha Thomas, yr hon sydd wedi ei geni a'i magu yn y dref, yr hon hefyd yn niwedd y flwyddyn hon, 1869, fydd yn llawn pedwar ugain a naw mlwydd oed (89).
Fe ddywed yr hen wraig hono wrthym ei hunan, ei bod yn cofio y Welsh Calvinistic Methodists yn ymgyfarfod i addoli mewn hen dy yn Castle-yard, a hyny cyn adeiladu o honynt gapel Pentrefelin. Hen balasdy mawr ydyw y Castell, fel y'i gelwir, yn yr un gymmydogaeth a'r Capel. Wrth gefn y Castelldy hwnw yr oedd yr hen dŷ y cyfeiriwyd ato. Mae yr hen wraig hono, Martha, yn cofio yn dda am briod gyntaf Mr. Jones, ironmonger.
Hefyd, y mae gwr arall o'r enw Mr. Smith, yr hwn fel Martha sydd yn frodor o dref Gwrecsam. Mae hwn hefyd, er ei fod dipyn yn ieuengach na'r llall, yn cyd-dystiolaethu i wirionedd y ffaith. Dywed y gwr hwn, ei fod yn cofio fod yr ystafell wedi ei gwyngalchu, a'i bod yn edrych yn wèn a glân. Dywed hefyd i ryw un roddi llawr newydd i'r tŷ, ar ol i'r gynnulleidfa fechan ymfudo i'w capel newydd. Yr ydym yn crybwyll y pethau syml diweddaf hyn, er mwyn adgofio i laweroedd, fel y gwyddant eu hunain, beth ydyw 'côf plentyn.' Fe ddywed Mr. Smith wrthym hefyd, y byddai nifer