i'r amser y daeth Mr. Jones o Lundain i Wrecsam, yr ydym yn dymuno yn y lle hwn roddi gair yn helaethach mewn ffordd o eglurhâd. Mae yn ymddangos oddiwrth yr hanes a ddyry y Parch. J. Hughes yn y ' Methodistiaeth,' yr hwn hanes a gasglwyd gan y Parch. O. Thomas pan yn Llundain, mai yn y flwyddyn 1774 yr ymgymmerodd Methodistiaeth yn y lle hwnw â'r ffurf o fod yn eglwys reolaidd, er fod Harris a Rowlands yn pregethu yno yn achlysurol flynyddau lawer cyn hyny. Wrth gydmaru yr amser tybiedig y dychwelodd Mr. Jones o Lundain â'r amser y dechreuwyd yr achos yno, yr ydym yn cael fod Mr. Jones felly wedi gadael brif ddinas bedair neu bum' mlynedd cyn fod Methodistiaeth wedi dyfod i un math o ffurf eglwysig.
Yn awr, gan i Mr. Jones a'i briod ddyfod i Wrecsam yn Fethodistiaid trwyadl, yn dwyn gyda hwy farworyn poeth oddiar allor y diwygiad yn Harries a Rowlands, y mae yn beth posibl o'r hyn lleiaf, y dichon Methodistiaeth fod yn Llundain mewn gwedd angyhoedd cyn y flwyddyn 1774. Modd bynag, y mae ffeithiau lawer ar gael, fod rhywbeth cyffelyb i hyn wedi bod yn Nghymru lawer gwaith. Os bu brawdoliaeth Fethodistaidd felly yn Llundain cyn y flwyddyn 1774, mae lle cryf i gasglu fod Mr. Jones a Miss Jones (ei briod ef wedi hyny) yn perthyn i frawdoliaeth fechan felly, ac yn dwyn mawr sêl drosti.
Yn awr, wrth gymmeryd i ystyriaeth yr amrywiol bethau hyn, y casgliad naturiol sydd yn ymgynnyg i ni ydyw, y dichon fod Methodistiaeth, yn ei chysylltiad â Mr. Jones a'i briod gyntaf ef, yn nhref Gwrecsam er ys pedwar ugain a deg o flynyddau, neu ragor. Isel, mae'n wir, oedd ei gwedd yn y 15eng mlynedd cyntaf, fel y ceir gweled eto.
Mae pob sicrwydd fod yn y dref, hyd yn nod yn y blynyddoedd cyntaf y cyfeiriwyd atynt, ryw gynnifer o frodyr crefyddol wedi ymuno, heblaw Mr. a Mrs. Jones. Ychydig, y mae'n rhaid addef, ydyw'r hanes sydd genym am bethau y tymmor hwnw.
Adwy'r Clawdd, yn benaf, oedd cartref yr ychydig frodyr yn Wrecsam yn nechreuad yr achos, ac i'r Adwy y byddent yn arfer