YR AIL GYFNOD.
(Yspaid saith-ar-ugain o flynyddoedd,-sef o'r amser y tybir i Mr. Jones, ironmonger, ymsefydlu yn y dref, oddeutu'r flwyddyn 1770, hyd yr amser yr adeiladwyd Capel Pentrefelin, yn 1797.)
CYNNWYSIR YN Y CYFNOD HWN
Y CRYBWYLLIAD cyntaf am Mr. Jones—tyb am ei fynediad i Lundain—ei ddychweliad i Wrecsam—yr achos yn ei fabandod—mewn cysylltiad ag Adwy'r Clawdd—y profion o hyny—yr ystafell gyntaf i addoli ynddi—y cyfarfodydd eglwysig yn Adwy'r Clawdd—tristyd na buasai yr hanes wedi ei wneyd yn gynt—oesoedd tywyll.
GAN mai Mr. Jones, ironmonger, mewn cysylltiad â'i briod gyntaf, oedd y prif offerynau, fel yr awgrymwyd, yn dwyn Methodistiaeth i'r dref, mae ei enw ef gan hyny mewn cysylltiad â hyn o hanes yn beth o bwys. Y crybwylliad cyntaf sydd genym am Mr. Jones ar ol ei ddychweliad o Lundain i'r wlad hon ydyw, ei fod yn un o ymddiriedolwyr capel a adeiladwyd yn Rhosllanerchrugog, yn y flwyddyn 1770. Yn yr hanes a ddyry Mr. Hughes yn y 'Methodistiaeth' am y Rhos, ni a'i cawn ef, fel y dywedwyd, yn crybwyll enw Mr. Jones. Pa hyd y bu efe yn Ngwrecsam cyn hyny, y mae yn anhawdd gwybod i sicrwydd.
Ganwyd Mr. Jones yn y flwyddyn 1740. A chaniatau ei fod wedi myned i Lundain pan yn 14 oed, efe a aeth yno feallai yn y flwyddyn 1754.
Dychwelodd i'r wlad hon, fel y gellir tybied, oddeutu y flwyddyn 1769, neu fe ddichon ychydig yn gynt, ar ol bod o hono yn Llundain oddeutu 15eng mlynedd. Mae'r ffaith ei fod yn y flwyddyn 1770, yn gweithredu fel un o ymddiriedolwyr capel yn y Rhos, a hyny fel yr oedd yn wr o Wrecsam, yn profi yn ddiddadl i'n tyb ni, ei fod yn y wlad hon ar y pryd, ac hefyd yn nhref Gwrecsam. Er mwyn rhagflaenu rhyw bethau a ddichon ymddangos yn anghyson o barth