Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o amser wedi iddo fyned i'r brif ddinas, tueddwyd ef i fyned i wrando ar Whitfield a Romain, ac eraill, gweinidogaeth effro y rhai fu yn fendithiol, trwy yr Yspryd Glân, i wneuthur argraffiadau crefyddol dyfnion yn ei galon.

Dedwydd derfynodd hyny yn ei wneuthur yn gristion gostyngedig a hunan ymwadol—yn weithiwr ffyddlon a difefl—ac yn addurn i grefydd yr efengyl hyd ddiwedd ei oes.

Rywbryd tra yn Llundain, daeth Miss Jones, Coed-y-Glyn, ac yntau i gyfarfyddiad a chymdeithas, yr hyn yn fuan a derfynodd mewn glân ac anrhydeddus briodas. Dychwelodd y ddau i Wrecsam, a hyny yn ol y casgliad ydym yn ei wneuthur, ryw ychydig o amser cyn y flwyddyn 1770. Tybir fod Mr. Jones wedi bod yn Llundain flynyddoedd rai, o flaen yr un a ddaeth wedi hyny i fod iddo yn briod.

Yn High-street yn y dref, dechreuasant y fasnach o ironmongery. yr hyn tan nawdd a bendith rhagluniaeth, a drodd allan yn hynod lwyddiannus. Mae yn debyg, ac yn deilwng o sylw hefyd; yn ol pob tebygolrwydd, y pâr ieuangc hwn, a roddasant yn y blawd, yn Wrecsam, lefen cyntaf Methodistiaeth Cymreig. Er fe allai na thylinwyd y blawd yn glamp toes ar y pryd, hyny ydyw, ni ffurfiwyd 'yn y lle eglwys reolaidd am beth amser ar ol hyn: ond y gwir ydyw erbyn hyn, y mae'r blawd a'r clamp toes wedi myned yn dorthau lawer.

Ond ystyried yn deilwng yr holl ddygwyddiadau yn eu cysylltiad â'r pâr ieuangc hwn, a'r modd y bu iddynt gael eu harwain i ymsefydlu yn y dref, y mae yn anhawdd peidio a gweled daionus ddoeth law rhagluniaeth Duw yn y cwbl, fel y cawn eto ddangos yn helaethach. Nid yn unig ynddynt hwy y dechreuwyd yr achos yn y dref, ond ar eu hysgwyddau hwy yn hollol o'r bron, am flynyddau lawer, yr oedd yr holl faich yn gorphwys. Eu tŷ annedd hwy am hir amser oedd unig letty, swccwr, a thŷ ymgeledd y pregethwyr yn y lle. Hyd yn hyn, y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn ffeithiau, gan mwyaf, y rhai trwy ymchwiliad a llafur y daethom o hyd iddynt. Yn awr yr ydym yn wynebu ar gyfnod, amserau yr hwn a'i bethau ydynt i raddau yn orchuddiedig gan niwl a thywyllwch.