i grybwyll enw Miss Jones, ni bydd i ni ymhelaethu ar hyn o bryd.
Oddeutu yr un amser ag yr oedd y ferch ieuangc y crybwyllwyd am dani yn cael ei dwyn i fyny yn nghymmydogaethau Gwrecsam ac Adwy'r Clawdd, yr oedd hefyd fachgenyn ieuangc yn cael ei ddwyn i fyny yn Llanddyn, gerllaw Llangollen, o'r enw Richard Jones. Mab ydoedd y bachgen, neu y gwr ieuangc, i amaethwr parchus o'r lle hwnw. Yr oedd y bachgen Richard yn un o yspryd lled ddewraidd, wedi cael dygiad i fyny da, a chael mwy o ysgol a manteision eraill, o bosibl, na rhai o'i gyd-gyfoedion. Mae yn ymddangos mai rhan fawr o orchwyl Richard pan gartref oedd bugeilio defaid ei dad. Nid oedd dringo llechweddau serth y mynyddoedd gerllaw y tŷ, a'r creigiau danneddog ag sydd eto yn aros, dioddef poethder yr hâf, a gerwin oerwyntoedd y gauaf, yn rhyw ddygymmod â'r awyddfryd angherddol ag oedd yn ei yspryd am weled y byd, a meddiannu mwy o hono. Pan yn syn-fyfyrio wrtho ei hun ar y pethau hyn, daeth i'r penderfyniad diysgog o roddi i fyny fugeilio, gadael ei gartref, a threio am gysur a llwyddiant ffordd arall. Yr oedd ganddo ar y pryd ewythr yn Llundain, penderfynodd gan hyny fyned i Lundain, gan obeithio y byddai y dyfodol yn well na'r presenol. Yr oedd eto un anhawsdra mawr ar ei ffordd cyn y gallai gyflawni ei fwriad a'i benderfyniad, yr hyn hefyd nas gallai lai na bod iddo yn brofedigaeth lem, hyny ydoedd, un deunaw swllt o arian oedd yr oll a feddai yn ei logell i wynebu ar ei daith hirfaith. Modd bynag, calonogodd ei hunan, gwregysodd ei lwynau, hwyliodd ei gerddediad tua'r brif ddinas, ac i brif ddinas Llundain y cyrhaeddodd yn llwyddiannus, a dim yn ei logell wrth gychwyn y daith ond yn unig y deunaw swllt. Wedi dyfod o hyd i'w ewythr, efe a geisiodd iddo le i wasanaethu fel cludiedydd (porter). Yr oedd hyn nid yn ychydig o gyfnewidiad i'r gwr ieuangc a ddygasid i fyny mor barchus. Pa fodd bynag, yr oedd penderfyniad diysgog ei feddwl y cyfryw, fel yr ymwrolodd yn ei feddwl i fyned trwy bob rhwystrau, fel ag i allu cyraedd ei amcan; yr hyn hefyd a wnaeth i raddau helaeth, o'r bron anhygoel; canys fe ddywedir iddo, tra yn Llundain, ddyfod yn berchen da lawer. Yn mhen rhyw gymmaint