Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny yn amlwg yn y fuchedd, mewn pob sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, yn mhob man lle y byddai. Mynych a chyson y cyrchai Miss Jones i hen gapel Adwy'r Clawdd, i'r cyfarfod eglwysig, ac hefyd i wrando hen enwogion y dyddiau hyny yn pregethu.

Yr oedd yr hen weinidogion hyny fel comets mawrion yn yr awyrgylch grefyddol; yn neheu-barth Cymru yn benaf, y rhai hefyd a wibdeithient yn awr ac eilwaith i ogledd-barth y Dywysogaeth. Diau i'r ferch ieuangc hon fod yn gwrando ar yr hen ddiwygwyr cyntaf, sef Harris, Trefeca; Rowlands, Llangeitho; y diweddaf o'r ddau ydoedd hen 'Apostol' enwog y Cymry. Diau hefyd iddi fod yn gwrando ar Dafydd Morris; Jones, Llangan; Williams, Pant-y-Celyn, ac eraill, hen dywysogion cyntaf y cyfundeb. Mae yn ddigon hysbys erbyn hyn, fod Adwy'r Clawdd yn un o'r lleoedd cyntaf yn Ngogledd Cymru a groesawodd Fethodistiaeth.

Yn mhen rhyw gymmaint o amser, fe ddeallwyd yn y palas oddiwrth ddifrifwch y ferch ieuangc, ac hefyd oddiwrth ei gwaith yn mynychu myned i gapel yr Adwy, ei bod yn un o'r 'penaucryniaid,' oblegid fel hyny, o wawd, yn y dyddiau hyny y cam-enwid y Methodistiaid. Y canlyniad o hyn fu i erledigaeth godi yn y palas yn erbyn y ferch ieuangc, yr hyn a derfynodd mewn peri iddi ymadael â'r lle. Yn fuan ar ol hyn, meddyliodd am droi ei hwyneb tua Llundain, a hwylio ei chamrau tuag yno, ac felly y bu, oblegid i Lundain yn fuan yr aeth.

Nid oes wybodaeth eglur yn mha le yn Llundain y gwnaeth ei chartref crefyddol tra y bu yno, mwy na bod amgylchiadau a gymmerasant le yn y cyfamser yn peri i ni gasglu mai gyda Whitfield yn benaf, a Romain, y rhai ar y pryd oeddynt gyfeillion calon i'r diwygiad yn Nghymru. Er fod Harris a Rowlands, ac eraill, yn ymweled yn fynych â'r brif ddinas yn y blynyddoedd hyny, eto, prin feallai yr oedd Methodistiaeth wedi ymffurfio yn y lle yn eglwys reolaidd. Er hyny, dichon fod yno deulu bychan Cymreig o honynt yn rhywle, ac felly y mae yn bur debygol i un ag oedd mor serchog a selog yn Adwy'r Clawdd, fwrw ei choelbren yn eu plith hwythau hefyd yn Llundain. Gan y bydd amgylchiadau eto yn galw arnom