yn cynnorthwyo ychydig arnom i roddi bras hanes am bethau, er nad i'r eglurdeb a'r boddlonrwydd ag y buasem yn dymuno.
Anffawd fawr erbyn hyn ydyw, na buasai rhywun wedi cymmeryd hyn o orchwyl mewn llaw ddeugain mlynedd yn ol, oblegid yr oedd amryw oraclau byw yr amser hyny ar gael, y rhai a allasent yn hawdd hysbysu llawer o bethau, y rhai, erbyn hyn, sydd wedi myned yn ddirgelwch.
Mae gerllaw Gwrecsam, ffordd yr eir o'r dref i Erddig, hen balas lled wych, yr hwn ar hyn o bryd sydd wedi dyfod yn breswylfod Peter Walker, Yswain, diweddar Faer y dref, yr hwn, ychydig fisoedd yn ol, a roddodd y swm dymunol o BUM GINI at adeiladu ein capel newydd yn y dref. Enw yr hen balas ydyw Coed-y-Glyn. Saif yn ymyl fforestty a choedwig Simon Yorke, Yswain, Erddig Hall; oddeutu hanner milldir o'r dref, yn nghyfeiriad y deau-orllewin: saif hefyd ar wastadedd bychan, oddiar pa un y gellir gweled amryw olygfeydd prydferth. Mae ei sefyllfa o herwydd amryw bethau yn un a fawr hoffir. Ond yr hyn sydd yn gwneyd y lle yr un mwyaf dymunol i ni ydyw, am mai yn y fangre hon o'r ddaear y preswyliai un, yr hon a anwyd yn 1747, a fu wedi hyny yn un o'r offerynau cyntaf, yn llaw rhagluniaeth ddwyfol, i osod i lawr gareg sylfaen Methodistiaeth yn y dref.
Merch ieuangc oedd hon o'r enw Ann Jones, yr hon a adwaenid yn well y pryd hwnw wrth yr enw Miss Jones, Coed-y-Glyn. Yr oedd hefyd ar y pryd frawd iddi o'r enw John. Mae yn ymddangos, ïe, yn lled sicr o ran hyny, fod Miss Jones, yn nghyd a'i brawd Mr. Jones, pan yn ieuaingc, yn aelodau o'r hen eglwys Fethodistaidd yn Adwy'r Clawdd.
Yn Nghoed-y-Glyn yn y dyddiau hyny y byddai amryw o'r hen bregethwyr, hwy a'u ceffylau yn cael lletty; ymborth; ymgeledd; a phob caredigrwydd. Rhywbryd ar ol tyfu i fyny, fe aeth Ann Jones, Coed-y-Glyn, yn fath o lady's maid i foneddiges ag oedd yn preswylio mewn palas heb fod yn mhell o Adwy'r Clawdd. Mae yn ymddangos fod y ferch rinweddol hon wedi derbyn argraffiadau gwir grefyddol ar ei chalon pan yn ieuaingc, a bod effeithiau yr argraffiadau