CYNNWYSIAD.
Y CYFNOD CYNTAF
YN CYNNWYS
ARWEINIAD i mewn—Coed y Glyn—Ann a John Jones, o Goed-y-Glyn—Ann Jones yn gadael cartref—ei nhodwedd grefyddol—yr erledigaeth a ddioddefodd—yn ymadael â'i gwasanaeth—ei mynediad i Lundain—yn gwrando ar Whitfield a Romain—Y gwr ieuangc o Landdyn, ger Llangollen—ei ddygiad i fyny—ei alwedigaeth yn nhŷ ei dad—nerth penderfynol ei feddwl—yn myned i Lundainyn gwrando ar Whitfield â Romain—ei ddychweliad at grefydd—yn dyfod i gyfarfyddiad a chymdeithas â Miss Jones—yn priodi—y ddau yn dychwelyd i Wrecsam—yn dechreu masnach yn y dref—eu llwyddiant—yn offerynau i sefydlu Methodistiaeth yn y dref—rhagluniaeth yn y tro—eu caredigrwydd at yr achos.
MAE olion ambell i hen ddinas wedi suddo mor ddwfn, neu ynte wedi eu gwasgaru yn y fath fodd, fel y mae yn anhawdd nid yn unig canfod yr adfeilion, ond penodi i sicrwydd y llanerch ar ba un y safai. Rhywbeth tebyg i hyn ydyw hanes dechreuad Methodistiaeth yn nhref Gwrecsam. Er nad oes ond llai feallai na chan' mlynedd er pan ddaeth y Trefnyddion Calfinaidd cyntaf i'r dref; eto, y mae amser mor fyr â hyny, wedi taenu y fath len o dywyllwch ar y blynyddoedd cyntaf, fel y mae yn anhawdd erbyn hyn, ïe o'r braidd yn anmhosibl a dyfod o hyd i ddim, ond yn unig trwy ymbalfalu oddi tan ein dwylaw. Mae amser wedi amharu cymmaint ar ddalenau hanesiaeth yn y lle, fel y mae yn anhawdd i'r un mwyaf craff ei olygon eu deall na'u darllen y ffaith ydyw, y mae'r oll o'r bron wedi ei lwyr ddileu: fodd bynag, odditan yr amgylchiadau, 'does dim i'w wneuthur bellach ond gwneyd y goreu o'r gwaethaf. Mae rhai traddodiadau eto yn y dref, ac ychydig ar gael o gofnodau, y rhai wrth eu cymharu â'u gilydd, ac â phethau ereill hefyd, ydynt