BUOM am amser maith, er pob trafod, chwilio ac ymofyn, yn methu dyfod o hyd, er boddlonrwydd, i ddim ag oedd yn ein harwain i wybod pa flwyddyn y dechreuwyd addoli yn Nghapel Pentrefelin. Pan oeddym o'r bron wedi llwyr anobeithio yn ein holl ymchwiliadau, daethom o'r diwedd o hyd i weithred (lease), yn yr hon y mae hen adeiladau yn Mhentrefelin yn cael eu hardrethu am yr yspaid o unmlynedd-ar-ugain, i'w hadgyweirio, a'u gwneuthur yn addoldy. Mae copi o'r lease yn awr ar y bwrdd ger ein bron, yr hon, erbyn hyn, sydd yn ddeuddeng mlynedd a thriugain oed. Mae yr yspaid maith hwn o amser wedi ei anmharu yn fawr, oblegid y mae ei lliw wedi llwydo a melynu. Yn ddamweiniol y dygwyddodd i ni gael awgrymiad yn ei chylch; ac wedi cael hyny, cafodd y perchenog gryn lawer o droi a throsi ar hen bapyrau, cyn dyfod o hyd iddi, a gosod ei law arni. Yr oedd yn llawenydd mawr genym ei chael, serch ei chael yn y wedd sydd arni. Dyddiwyd hi ar y cyntaf o Chwefror, yn y flwyddyn 1797. Enw perchenog y lle ar y pryd oedd, Edward Jackson, lliwiwr, o'r dref hon (Gwrecsam). Enwau yr ymddiriedolwyr yn y lease ydynt fel y canlyn:—Mr. Richard Jones, ironmonger, Wrecsam; Parch. Thomas Charles, Bala; Parch. Thomas Jones, Wyddgrug (Dinbych wedi hyny); Parch. Robert Ellis, Cymau (Wyddgrug wedi hyny); Parch. John Edwards, Gelli-gynan (Plas Coch wedi hyny).
Nid anfuddiol fe allai cyn myned yn mhellach, rhag os dygwydd hyn o hanes ddisgyn i ddwylaw y dyeithr, fyddai rhoddi iddo ryw awgrymiad pa gwr o'r dref ydyw 'Pentrefelin.'
Wrth i'r ymdeithydd gychwyn oddiwrth y bont ar y ffordd i Riwabon o'r dref, a cherdded rhagddo ar hyd Brook-street, yn lled fuan mae yn dyfod at y felin a'r llyn, y rhai ydynt ar y llaw ddeau iddo. Ar y llaw aswy iddo, nid yn wyneb yr ystrŷd, ond yn y cefn, y mae ysgwâr lled helaeth o dai, yr hon ysgwâr a elwir yn Nailors'-yard. Yn awr, rhan o'r ysgwâr hono ydoedd yr hen gapel: y siop sydd yn awr yn wyneb yr ystrŷd, gyferbyn â'r felin, ydoedd tŷ'r capel gynt, oblegid yno y byddai yr hen bregethwyr yn gorphwys ychydig, yn ysmocio, ac yn dadymluddedu. Nid oedd o ddrws cefn