y siop, hyd i ddrws y capel, ond oddeutu pymtheg llath. Mae'r parth hwnw o'r dref yn y gorllewin iddi, ac felly y rhan agosaf at Adwy'r Clawdd.
Lled isel, debygid, oedd yr achos yn y dref ar agoriad y capel newydd yn Mhentrefelin, ac ychydig oedd nifer y rhai a broffesent. Dyma, er hyny, oedd yr amser mwyaf arbenigol, ac y rhoddwyd yn y priddellau, yn Ngwrecsam, fesen gyntaf Methodistiaeth Gymreig, (yr oedd yr achos yn y dref o'r blaen mae'n wir, fel rhyw lefen yn y blawd, fel y coffawyd eisoes). Fe eginodd y fesen yn lled fuan; ac fe flaendarddodd, eto eiddil a llesg oedd yr olwg arni am rai blynyddoedd: ond erbyn heddyw, mae yr un a welwyd yn flaguryn eiddil wedi tyfu yn bren mawr. Mae'r dderwen yn gref, ei gwraidd wedi lledu, ei phaladr yn braff, ei cheingciau yn estynedig, ei brigau yn uchel, a'i dail yn wyrddleision.
Fe gyfarfyddodd y cyfeillion yn Ngwrecsam à phrofedigaeth danllyd yn y flwyddyn 1793, sef pedair blynedd cyn agoriad y capel; oblegid yn y flwyddyn hono y bu farw Mrs. Jones, gwraig gyntaf Mr. Jones, ironmonger, yn 50 mlwydd oed. Er nad oedd ond ieuangc mewn ystyr, eto, er hyny, yr oedd yn fam yn Israel. Yr oedd dwyn un ag oedd mor anwyl, o fynwes teulu ag oedd mor fychan, yn rhwyg ac yn archoll ddofn. Yr oedd colli chwaer ag oedd mor serchog, caredig, ac o gymmeriad mor uchel, yn gristion mor ostyngedig a hunanymwadol, yr hon hefyd oedd wedi rhoi cychwyniad i'r achos crefyddol yn y lle, yn ddiau yn archoll ddofn, ac yn golled annhraethadwy. Mae hen flaenor Adwy'r Clawdd, o'r enw John Griffiths, yn mhen blynyddoedd ar ol ei marwolaeth, mewn math o alarnad i'w phriod, yn gwneuthur crybwylliad am dani hithau hefyd. Fel hyn y dywed, 'Gorphwysed eich marwol ran yn ngwely 'r bedd, yn ochr eich priod gynt, un o fil; cydostyngedig oedd a'r isel radd, hi garai'r saint i gyd â chariad pur.' Fe ddywedodd hen frawd arall o Adwy'r Clawdd wrthym, yr hwn oedd yn gyd-aelod â hi yn y lle, ei bod yn nodedig am ei duwioldeb, ac at achos crefydd, yn bob peth a allesid ei ddymuno. Ar ol marwolaeth Mrs. Jones, cafwyd yn ei llogell sypyn o arian wedi eu gwneyd i fyny, y rhai yn ol tyb ei