phriod, a fwriadwyd ganddi at ryw achos crefyddol arbenig. Rhyw bryd yn nghorph y dydd hwnw, efe a safai uwchben ei gweddillion marwol, a'r arian yn ei ddwylaw. Tra yn y modd hwnw yn edrych arni, ac yn wylo 'r dagrau yn hidl, efe a ddywedai, 'O na wyddwn at ba achos yr oeddych wedi bwriadu i'r arian hyn fyned, fel y cawswn yr hyfrydwch calon o'u rhoddi at y peth hwnw.' Erbyn hyn nid oedd yr un oracl ar wyneb y ddaear a allasai ddatguddio'r dirgelwch. Buasai yn dda genym pe buasai ar gael fwy o hanes y chwaer rinweddol hon, ond gan ei bod wedi marw er's cymmaint o flynyddoedd, y mae rhoddi mwy o'r hanes yn beth nas gallwn ei wneuthur. Cofied y darllenydd mai hi ydoedd y Miss Jones, Coedy-Glyn, y soniasom am dani o'r blaen.
Fe allai, cyn myned o honom ddim pellach yn mlaen gyda'r hanes, mai priodol yn y lle hwn fyddai gwneyd crybwylliad helaethach am ei brawd, Mr. Jones, Coed-y-Glyn. Mae yn ymddangos fod Mr. Jones wedi marw er y flwyddyn 1815, neu rywbryd oddeutu yr amser hwnw. Ychydig, os dim, sydd genym o hanes Mr. Jones yn ei ddyddiau diweddaf, a'r rheswm am hyny debygid ydyw, am ei fod, flynyddau rai, cyn ei farwolaeth, wedi priodi boneddiges o'r enw Miss Myddelton, Gwanynog, ger llaw Dinbych, yr hon oedd yn aelod dichlynaidd yn Eglwys Loegr. Yr oedd ei briod fel yntau yn gristion gloew a lluaws mawr o rinweddau yn perthyn iddi. Cafodd y tlawd a'r cleifion yn ei marwolaeth golled fawr. Tebyg ydyw i Mr. Jones, ar ol priodi, adael Methodistiaeth a myned gyda'i wraig i'r eglwys sefydledig. Bu'r ddau fyw yn grefyddol hyd ddiwedd eu hoes. Claddwyd y ddau yn eglwys Gwrecsam. Oddi mewn, yn agos i'r allor, yn yr adgyweiriad fu ar yr hen eglwys yn 1867, daethant o hyd i eirch y ddau, ochr yn ochr, a'r plates arnynt yn fresh, y rhai yn awr sydd yn meddiant clochydd y lle. Er fod Mr. Jones, fel y tybir, wedi cefnu ar Fethodistiaeth, oherwydd yr amgylchiadau a nodwyd, ac ymuno ag Eglwys Loegr, eto nid oes achos i neb feddwl yn llai am ei grefydd, oherwydd amgylchiadau yn hollol a barodd hyny. Yr oedd priod Mr. Jones yn Saes'nes hollol. Mae yn ymddangos iddo ddangos llawer o garedigrwydd at Fethodistiaeth, pan