oedd ei gwedd yn isel, a llawer yn edrych arni gyda gradd o ddirmyg a diystyrwch. Mae'r hanes a gawsom am Mr. Jones yn profi ei fod yn gristion unplyg a gostyngedig. Dyn isel, dirodres, hynod ddiymhongar ydoedd. Yr oedd ei ddoniau gyda chrefydd yn fychain iawn. Yr un weddi fyddai ganddo agos bob amser wrth gadw'r ddyledswydd deuluaidd; o'r hyn lleiaf byddai yn debyg iawn. Maddeued y darllenydd i ni am aros cyhyd gyda Mr. Jones, Coed-y-Glyn, a'i briod; dychwelwn yn awr yn fwy uniongyrchol at yr hanes.
Yn mhen tua phedair blynedd ar ol marw gwraig gyntaf Mr. Jones, ironmonger, efe a ail briododd un o'r enw Miss Phillips, Ty'n-rhos, merch i amaethwr parchus heb fod yn mhell o Groesoswallt. Megys yr oedd ei briod gyntaf ef yn wraig ddymunol, rinweddol a ffyddlon, felly hefyd yr oedd y ddiweddaf; ac yn fwy felly, yn gymmaint a bod y maes a'r manteision iddi hi yn helaethach nag i'r gyntaf, Cawn gyfleusdra eto cyn diwedd yr hanes i goffäu am y chwaer rinweddol hon.
Gan fod y lease y cyfeiriwyd ati yn cael ei harwyddo yn nechreu y flwyddyn 1797, ond odid nad agorwyd y capel hefyd yn y flwyddyn hono; oblegid nid oedd y gorchwyl o adgyweirio yr hen adeiladau hyn, a'u gwneuthur ar wedd capel, ond bychan.
Yr oedd golwg siriol a gobeithiol debygid at y dyfodol ar yr achos, er, ar hyny o bryd, nad oedd eu nifer ond bychan. Parhaodd pethau yn ddymunol am ysbaid o amser; y brodyr yn y dref a'r brodyr yn yr Adwy yn ymserchu llawer yn eu gilydd. Cyrchent lawer at eu gilydd, a chymdeithasent, serch fod capel y dref wedi ei agoryd, a hyny yn unig er mwyn maeth ac adeiladaeth yn mhethau ysbrydol crefydd. Yn mhen ychydig o flynyddoedd ar ol hyn, pan oedd yr awyrgylch eto yn glir debygid, wele gwmmwl arall yn ymgasglu ac yn ymhofian uwch eu penau, llawer duach na'r un cyntaf, ac yn bygwth ymdywallt arnynt ei gynnwys ofnadwy; yr hyn hefyd a wnaeth; oblegid yn y flwyddyn 1805, sef yn mhen wyth mlynedd ar ol agoryd o honynt eu capel, bu farw Mr. Jones, gan adael ei ail wraig, a phump neu chwech o blant bychain, i alaru ar ei ol. Am mai Mr. Jones oedd yr unig flaenor yn eu plith am a wyddom, a