Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chan mai ar ei ysgwyddau ef, o'r bron, yr oedd holl bwys yr achos yn gorphwys, mae yn rhaid i ni gredu fod ei farwolaeth ar y fath amser, a than y fath amgylchiadau, yn ddyrnod trwm iawn.

Fe deimlodd yr ychydig gyfeillion yn y lle eu serch a'u hanwyldeb yn cael archoll ddofn, a'u gobeithion hefyd yn y dyfodol fel yn cael eu siomi yn ddirfawr. Fel y crybwyllasom o'r blaen, yr oedd hen flaenor yn Adwy'r Clawdd, o'r enw John Griffith, yr hwn ag oedd yn gyfaill mynwesol i Mr. Jones, ac hefyd wedi bod lawer yn nghyfeillach ei wraig gyntaf ef. Mae mynwes yr hen frawd hwnw, ar yr achlysur o farwolaeth ei anwyl gyfaill, fel yn ymlenwi i fyny o alar hyd yr ymylon, ac o herwydd hyny yn ymdywallt allan yn ffrwd mor gref nes cario ymaith y darllenydd fel heb yn wybod iddo ei hun. Mae John Griffith hefyd yn yr alarnad hon yn cyfeirio yn bruddaidd at Rowlands, Llangeitho; Howel Harris; Dafydd Morris; Williams, Pant-y-celyn; Jones, Llangan; ac un o'r enw Pearce; ac yn ddiweddaf oll, Robert Roberts, o Glynog, Arfon. Mae y farwnad yn fath o raiadr, yn ymdywallt ar gopa y darllenydd, nes ei guro o'r bron allan o wynt. Mae dullwedd ei chyfansoddiad dipyn yn wahanol i'r hyn a welir yn gyffredin. Mae yn werth ei hargraffu yn y graig dros byth, â phin o haiarn ac â phlwm. Mae yr alarnad grybwylledig yn meddiant Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, yn llawysgrif John Griffith ei hunan, ac iddo ef yr ydys yn ddyledus am ei benthyg, fel ag i'w hail ysgrifenu.

Nid oes yr un rhagddalen (title page) o fath yn y byd i'r cyfansoddiad. Mae'r awdwr, fel Jeremiah gynt, yn cael ei wefreiddio yn y fan; ac heb un math o ragymadrodd mwy nag yntau, yn bwrw allan ffrwd galar ei galon gyda rhyw nerthoedd sydyn ac aruthrol, ac yn dyweyd

'OCH y byd sydd mor lawn o gyfnewidiadau trist!
Ddoe yn addaw rhyw baradwys wych;
Ond heddyw yn dwyn y cwbl sydd yn fy rhan.
Paham y cais fy nghalon wag ddedwyddwch yn
Y byd, lle nad oes ond gorthrymderau trist!