Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyw ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos, yn enwedig yn y cyfarfodydd eglwysig. Gan i'r brodyr yn lled fuan ar ol i Mr. Hughes ddyfod i'r dref ysgogi at adeiladu capel Abbot-street, fe ddichon fod ei ddyfodiad atynt, yn mhlith pethau ereill, wedi prysuro'r peth yn ei flaen. Yn lled fuan wedi i Mr. Hughes ymsefydlu yn y dref, fe ddaeth amryw bregethwyr ato i'r ysgol. Yr oedd rhai o honynt, yn enwedig y rhai cyntaf, wedi myned i wth o oedran-megys Daniel Evans; Foulk Evans; a Dafydd Rolant. Dygwyddodd anffawd ddigrifol i Foulk Evans tra yn yr ysgol, yr hyn ar ol hyny a barai lawer o chwerthin diniwed yn mhlith yr ysgolheigion. Yr oedd Foulk, a brawd arall iddo yn y weinidogaeth, yn cyd-fyned ar noson dywyll i'r hen gapel, i'r cyfarfod eglwysig. Ryw fodd neu gilydd, aeth y ddau yn rhy agos i'r afon gerllaw y tŷ y llettyent ynddo, a'r anffawd drwsdan fu, fe syrthiodd Foulk druan ddyn, ar ei hyd gyd i ganol yr afon, a gwlychodd yn sopen. Er nad oedd ar y pryd ddigon o ddwfr i'w foddi, eto efe a gafodd drochfa iawn. 'Doedd dim erbyn hyn iddo i'w wneyd ond dychwelyd i'w letty gynta' gallai i newid ei ddillad. Aeth ei gyfaill, Daniel Evans, yn ei flaen i'r capel. Wedi eistedd am enyd, trodd at Mr. Hughes, eu hathraw, a rhoddodd air yn ei glust am yr hyn a ddygwyddasai i Foulk. Cododd hyn y fath ysgafnder ar Mr. Hughes fel mai prin y gallai ei feddiannu ei hunan rhag chwerthin allan, er ei fod yn y capel. Gan fod Mr. Hughes o dymherau naturiol mor ysgafn a llawen, yr oedd gweled Foulk yn mhen ychydig funydau yn dyfod trwy ddrws y capel, yn adnewyddu ysgafnder ei feddwl, a bu y tro yn radd o brofedigaeth iddo ar hyd y cyfarfod. Yr oedd cymmaint o ddifrifwch, er hyny, yn meddiannu Foulk, a phe buasai ar fedd ei fam. Yr oedd Daniel Evans a Foulk Evans yn ddigon hen ar y pryd i'w rhestru yn nosbarth yr hen langciau; ond yr oedd Dafydd Rolant dipyn yn ieuengach. Richard Wynn, y Borth, hefyd; Robert Thomas, Llidiardau, a Dafydd Jones, Llanllyfni, a ddaethant i'r ysgol yn lled fuan ar ol y lleill. Hen ysgolorion Mr. Hughes ydyw Thomas Francis; Richard Edwards, Llangollen; John Davies, Nerquis; Robert Hughes, o Gaerwen; Roger Edwards, Wyddgrug,