Er fod llawer o bethau od ac annymunol yn perthyn iddo, eto yr oedd llawer o'r cristion i'w ganfod ynddo, yn nghanol ei holl waeledd. Fel hyny hefyd yn gyffelyb y byddai Cati ei wraig. Difyrus iawn genym fyddai gwrando ar Thomas Edwards, y blaenor, yn adrodd eu hanes. Yr oedd y ddau, er pob ffaeledd oedd ynddynt, yn unplyg, cywir, a gwir grefyddol. Yr oedd Thomas Edwards yn dyweyd wrthym am Cati, fod cryn lawer o ysbryd arglwyddiaethu yn yr hen chwaer. Byddai yn controwlio llawer iawn; gan orchymyn y peth hyn, cyfarwyddo am beth arall, ac awgrymu rhywbeth am y trydydd; ac os na byddai sylw yn cael ei dalu, ac ufydd-dod yn cael ei roddi, byddai gwyneb go hir yn cael ei dynu, a crychian gwgus yn gwneyd ei ymddangosiad yn y wyneb. Byddai rhyw yspryd lled annymunol yn cymmeryd meddiant o'r hen chwaer ar brydiau, a byddai ganddi dri o enwau ar Thomas Edwards, meddai ef; sef, Tom; Twm; a Thomas. Yn y tri enw hyny y byddai yntau yn deall arwyddion yr amserau. Pan y byddai yr awyrgylch yn glir, yr hinsawdd yn dymherus, a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus, Tom fyddai yr enw y pryd hwnw, a byddent yn mwynhau cymdeithas eu gilydd yn bur ddymunol. Ond os byddai yr enw Twm yn dyfod allan, byddai yr awyrgylch yn dechreu duo, ac aelau yr hen chwaer yn dechreu llaesu, ei llygaid yn dechreu melltenu, ac ambell i daran-follt o air nes peri tipyn o ysgydwad. Pan y byddai pethau wedi dyfod i hyn, byddai yn rhaid i'r hen frawd fod ar y look out am rhyw loches i redeg iddi. Ond pan y galwai hi ef Thomas, byddai yn rhaid iddo gymmeryd y traed a diangc am ei fywyd, oblegid yn awr byddai yr ystorm yn dechreu ymdywallt yn aruthrol, a gwell o lawer fyddai diangc, na mentro sefyll yn yr hurricane.
Yn y flwyddyn 1819, fe ddaeth John Hughes, y pregethwr, o Adwy'r Clawdd, i'r dref i fyw, ac yn Fairfield House efe a ddechreuodd gadw ysgol. Galwai Dafydd Rolant yr ysgol hon yn 'Athrofa'r Methodistiaid;' ac mewn llawer ystyr nid mor anmhriodol, oblegid yr oedd yn debygach i'r cyfryw le nag i ddim arall. Fe fu dyfodiad Mr. Hughes i'r dref, a'i ymsefydliad yno fel athraw, yn