Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen aelodau hynaf Adwy'r Clawdd. Beti Edwards, o Bursham, hefyd; a John a Cati Thomas; dau garictor lled hynod oedd y ddau hyn, ond gwir grefyddol: William Davies, hefyd, a'i wraig; Mrs. Davies, Erddig; John Roberts, y teiliwr, a'i wraig Dorothy. Yr ydym yn cofio gweled yn fynych yn nghapel Pentrefelin, hen ŵr mawr o gorpholaeth, a'r olwg arno yn bur foneddigaidd. Gelwid ef, o herwydd ei swydd yn y filwriaeth, y 'Cadben Jones,' ac weithiau gelwid ef Yr hen 'Adjutant.' Efe yn y cyffredin, yn y blynyddoedd cyntaf hyny, fyddai y cadeirydd yn nghyfarfodydd cyhoeddus y 'Feibl Gymdeithas,' pan yn y dref. Nid ydym yn gwybod i sicrwydd a oedd efe yn aelod o'r frawdoliaeth yn Mhentrefelin ai nad oedd, dichon mai yn achlysurol y byddai efe yno: gwyddom i ni ei weled ef yno lawer o weithiau, a bod yn gwrando arno. Y nesaf gawn ei henwi ydyw Mrs. Jones, ail wraig Mr. Jones, ironmonger; dylasem mewn trefn enwi y chwaer hono yn gynt. Evan Lloyd, hefyd, yr hwn oedd y pryd hwnw yn fachgen ieuangc; ac Elizabeth ei chwaer. Mab a merch ydyw y ddau ddiweddaf hyn i'r hen batriarch o Adwy'r Clawdd-Evan Llwyd. Un Mrs. Rogers hefyd, yr hon yn awr sydd yn Seacombe, gerllaw Birkenhead, gwraig un o'r blaenoriaid. Dyddiau'r Sulgwyn yn Liverpool, y flwyddyn hon, 1869, fer ddywedodd Mrs. Rogers wrthym mai hi ei hunan, er's ychydig uwchlaw triugain mlynedd yn ol, ac un Ellenor Ellis (Mrs. Phillips wedi hyny), Sarah Roberts (Mrs. Gummow wedi hyny), a Lydia, morwyn Mrs. Jones, ironmonger, yr hon wedi hyny a ddaeth i fod yn wraig Daniel Jones, oedd y pedair lodesi cyntaf, y sabboth cyntaf y dechreuwyd cadw ysgol sabbothol yn nghapel Pentrefelin. Yr olaf a enwn ydyw Mrs. Giller, Erddig Lodge. Awgrymwyd o'r blaen am John a Cati Thomas, eu bod yn ddau garictor lled hynod; felly yr oeddynt. Yr oedd John yn rhyw chwerwyn pigog, ar ei ben ei hunan. Os gofynid rhywbeth iddo, byddai ei atebion yn fyrion a sychion; ei ddull o siarad yn hynod o'r crabet a diserch. Gwyddom am ffarmdŷ lle y bu yn gweithio am lawer o flynyddoedd: clywsom ei hen feistr, o'r lle hwnw, yn dyweyd am dano, ei fod yn un o'r dynion cywiraf, ffyddlonaf a_gonestaf ag a fu erioed yn gwasanaethu.