y capel hwnw, i Elias bregethu ynddo. Yr oedd y pregethau cyntaf a glywsom gan Elias ynddo oddeutu'r blynyddoedd 1809 ac 1810. Diammeu iddo bregethu llawer ynddo cyn y blynyddoedd uchod, ac felly cyn ein hamser ni. Yr oedd y capel, a'r gynnulleidfa fyddai yn arfer gwrando ynddo, yn un pur barchus. Byddai Elias bob tro, bron yn ddieithriad, yn galw sylw ei wrandawyr at hyn; sef ei fod yn lle glanwaith a pharchus, a'r gynnulleidfa fyddai yn arfer gwrando ynddo felly hefyd. Taer erfyniai arnynt am ofalu ymddwyn yn foesgar yn y lle, a pheidio a chnoi tybaco, a phoeri yn yr eisteddleoedd, i beri gwarth arno ef a hwythau; ac nid hyny yn unig, ond ar y cyfundeb, ac ar genedl y Cymry.
Enw gweinidog y lle oedd Mr. Brown. Yr ydym yn cofio y byddai Elias bob amser ar ddiwedd y bregeth yn gweddïo yn daer drosto, a thros ei eglwys a'i wrandawyr. Gweddïai am i wir a phur athrawiaeth yr efengyl gael ei phregethu allan o'r pulpyd hwnw. Ni dybiem ar y pryd, mai nid gwneuthur hyn o ryw ddefod a ffasiwn yr oedd efe; ond byddai fel dyn o ddifrif yn gwneyd hyny.
Yr ydym yn ei gofio yn pregethu yno un noson, ar ei ddychweliad o Gaerlleon, oddeutu'r flwyddyn 1813. Yr oedd yr oedfa hono yn debyg i gyfarfod dydd y Pentecost, a rhyw wynt nerthol yn rhuthro, a mawr fu'r sôn am y bregeth ar ol hyny. Ei destyn oedd y geiriau, 'Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i'w ogoniant.' Yr oedd y desgrifiad a gawsom y noson hono o ddioddefiadau Crist, a'r rhaid' ag oedd yn mynu dwyn hyny oddiamgylch, yn bethau a hir gofiwyd gan laweroedd.
Diammeu i'r hen frodyr a'r hen chwiorydd yn ac oddeutu'r blynyddoedd hyny gael llawer gwledd felus. Buasai yn ddymunol iawn allu côfrestru amryw o'r hynaf rai yn y lle, y rhai a ddygasant bwys y dydd a'r gwres; ond nis gallwn wneyd hyny ond yn lled anmherffaith; ond amcanwn wneuthur ein goreu yn hyn. Y rhai hynaf hyd y cawsom yr hanes, a chyn belled y gwyddom ein hunain, oeddynt, Mr. Jones, ironmonger, a'i briod gyntaf; Mr. Jones, Coed-y-Glyn; Mrs. Jones, y Siop, Pentrefelin (tŷ yr hon ydoedd yn dŷ y capel). Yr oedd yr hen chwaer ddiweddaf hon, debygid, yn un o