Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfodydd eglwysig a gynhelid ar y pryd, yn hen gapel Pentrefelin. Yr ydym yn cofio hefyd beth oedd rhai o'r materion yr ymdriniwyd â hwy. Y mater mewn un sasiwn oedd "Teyrnas ysbrydol yr Arglwydd Iesu ar y ddaear." Yr ydym yn cofio mai John Roberts, o Langwm, oedd yn rhoi y mater i lawr. Wrth wneyd hyny, dywedai pwy oedd 'Brenin y deyrnas, beth oedd cyfreithiau y deyrnas, a phwy oedd deiliaid y deyrnas, &c.'

Mewn sasiwn arall, yr ydym yn cofio mai 'ofn' oedd y pwngc. Nid oes genym ar gôf ddim o'r sylwadau. Yr ydym yn cofio cymmaint a hyn, sef fod Enoch Evans, o'r Bala, yn eistedd ar un o'r meingciau ar lawr y capel, ac iddo godi ar ei draed yn fyrbwyll a sydyn, a dywedyd, "Dydyw ofn grefydd yn y byd." Eisteddodd eilwaith heb ddyweyd un gair yn rhagor. Yr ydym yn cofio i'r dywediad byr a dyeithr beri i aml un ar y pryd wenu.

Mewn sasiwn arall, 'Y sabboth a'i gadwraeth' oedd y mater. Wedi i'r naill a'r llall o'r brodyr fod wrthi yn traethu eu syniadau ar y pwngc, fe safodd y Parch. Simon Llwyd, o'r Bala, i fyny ac a ddywedodd y dylid galw y dydd yn awr, oddi tan oruchwyliaeth yr efengyl, neu y Testament Newydd, nid y 'sabboth,' ond 'dydd yr Arglwydd.' Ar ol i'r hen dad parchus draethu ei syniadau ar y dydd, a'r ddyledswydd o'i gadw yn sanctaidd, a chymhell ei frodyr o hyny allan i'w alw 'dydd yr Arglwydd,' ac nid y sabboth, efe a eisteddodd. Yna fe gododd John Jones, Treffynnon, ar ei draed ac a ddywedodd, a'i wên ar ei enau, 'Ho, wel; mae yn rhaid i Meistar Llwyd yma fod yn ddoethach na ni i gyd; wel, ni dreiwn gofio o hyn allan os medrwn, a'i alw yn 'ddydd yr Arglwydd.'

Yr ydym yn cofio er yn ieuangc, y byddai John Elias yn ymweled â'n tref yn lled fynych, ac yn cael cynnulleidfaoedd lluosog i wrando arno; a byddai rhyw nerthoedd ac arddeliad rhyfedd ar ei weinidogaeth. Yr oedd hen gapel helaeth y pryd hwnw yn Chester-street, yn y dref, perthynol i'r Presbyteriaid Seisnig. Yr oedd y capel hwnw yn sefyll ar y llanerch ar ba un yr adeiladwyd yr un newydd presenol. Pan y byddai John Elias yn dyfod ar ei deithiau trwy y dref, byddai y brodyr yn y lle hwn bob amser yn cael benthyg