neu yn hytrach Jones's Square. Lle ydoedd hwn yn yr awyr agored, yn Queen-street, yn nghwr y dref, ffordd yr eir i'r Rhos-ddu. Mawr fyddai y cyrchu iddynt o bell ac agos. Byddai cymmydogaethau Llangollen, Rhosllanerchrugog, Adwy'r Clawdd, Caergwrle, &c., yn cyrchu yno yn fynteioedd lluosog iawn. Fe fyddai y cyfarfodydd hyn yn y blynyddoedd hyny yn dra bendithiol i'r cymmydogaethau cylchynol. Nid yn unig byddent yn fendithiol i ddychwelyd lluaws, ond hefyd i adeiladu yr eglwysi mewn pethau ysprydol, a chysuro'r saint ar daith eu pererindod. Adwaenid y cyfarfodydd hyn yn yr holl gymmydogaethau wrth yr enw 'Sasiwn y dref.' Yr oedd yr enw wedi dyfod mor ymarferol a chartrefol genym â'r enw 'Sasiwn y Bala.'
Enwau'r pregethwyr cyntaf ydym yn gofio yn dyfod i'r cyfarfodydd hyn ydynt, Mri. Charles, o'r Bala; Jones, o Ddinbych; Jones, Dôly-fonddu; Ebenezer Morris; Ebenezer a Thomas Richards; John Roberts, Llangwm; Michael Roberts; Evans, New Inn; John Elias; Thomas Edwards, Lerpwl; a Mr. Llwyd, Bala. Byddai amryw o Saeson y dref yn arfer dyfod i'r cyfarfodydd hyn i wrando John Elias, heb fod yn deall bron un gair o'r iaith. Yr oedd rhywbeth yn ngwedd Elias; yn ei lygaid; yn ysgogiad ei fraich a'i law; yn ei edrychiad: gosodai ei law ar ei fynwes weithiau; codai ei olygon i'r nefoedd ar y pryd, a gweddïai mewn hanner dwsin o eiriau, nes creu difrifwch a dychryn ar y mwyaf anystyriol. Bryd arall ymattaliai am hanner munyd heb ddyweyd un gair, a hyny yn yr amser y byddai ei fater, ei athrylith, a'i eiriau yn fwyaf nerthol ac ofnadwy. Byddai ei law yn ysgogi yn ol a blaen yn nghanol yr holl ddystawrwydd ymdorai wedi hyny yn fellt a tharanau ar ei wrandawyr nes byddai y bobl yn gwelwi, ac ar ddarfod am danynt. Estynai atynt wedi hyny gostrel yr efengyl, nes eu bywhau a'u hadloni. Byddai y Sais yn gweled y peth ofnadwy, er na byddai yn deall: a diammeu genym i lawer un adael y lle ac argraff o ddifrifwch ar ei galon.
Pa bryd y dechreuodd y cyfarfodydd hyn yn ein tref, yr ydym wedi methu a chael allan, er pob ymchwiliad; a pha beth a roddodd derfyn arnynt, nid ydym yn gwybod. Yr ydym yn cofio rhai o'r