sabbothol yr awgrymwyd am dani, er ys 60 mlynedd yn ol, oeddynt John Edwards, Gelli-gynan; Peter Roberts, Llansanan; John Llwyd, Llansanan; Mr. Jones, o Ddinbych; Mr. Ellis, o'r Wyddgrug; John Jones, Treffynon; John Davies, o Nantglyn; John Humphreys, o Gaerwys; William Jones, o Ruddlan; Evan Llwyd, Adwy'r Clawdd; Robert Roberts, Llanelwy (Rhos wedi hyny); Thomas Owens, Adwy'r Clawdd; Mr. Parry, Caerlleon; Edward Watkin a Jeremiah Williams. Hefyd, ychydig yn ddiweddarach, John Hughes, Llangollen; John Hughes dduwiol, a John Hughes ddoniol, y ddau o Adwy'r Clawdd. Byddai hefyd ambell i gomed fawr ac aruthrol yn rhoddi tro trwy ein hawyrgylch yn awr ac eilwaith, megys Elias o Fôn; Charles o'r Bala; John Evans, New Inn; Ebenezer Morris; Ebenezer Richards, a'i frawd Thomas; &c. Yr oedd nid yn unig oleuni yn y bodau hyny, ond yr oedd ganddynt hefyd wres mawr; a theimlid ei effeithiau tymmherus ac adfywhaol am fisoedd lawer ar ol eu dychweliad. Byddai parch mawr yn cael ei ddangos at weinidogaeth yr efengyl yn y dyddiau hyny, a byddai yr arddeliad fyddai arni ar brydiau yn wir nerthol ac effeithiol. Yr ydym yn cofio yn dda fod wedi bod yn gwrando ar yr holl enwogion a enwyd, yn hen gapel isel—wael Pentrefelin. Oddeutu'r flwyddyn 1811, ar noson waith, yr oedd John Prytherch, o Fôn, yn pregethu yn yr hen synagog. Tra yr ydoedd Mr. Prytherch yn gweddïo, fe ddaeth Christmas Evans i fewn. Cawsom bregethau tanllyd gan y ddau. Yr oedd peiriant dychymmygol Christmas, y noson hono, yn nerthol ac aruthrol, ond yn brydferth ac effeithiol. Yr oedd angenrheidrwydd mawr yn y dyddiau hyny am bregethu teithiol, oblegid dyma yr unig foddion iachawdwriaeth, o'r bron, oedd yn y wlad yn nghyraedd pawb. Yr oedd yr ysgolion sabbothol yn y blynyddoedd hyn megys yn eu mabandod; y Beiblau hefyd oeddynt yn anaml, a'r rhai a allent eu darllen yn dda yn anaml hefyd. Fel hyn yr oedd gwrando pregethu'r efengyl, a theithio llawer i'w gwrando, o angenrheidrwydd wedi dyfod yn beth cyffredin.
Priodol yn y lle hwn ydyw gwneyd crybwylliad am gyfarfodydd blynyddol ein tref, a gedwid yn y dyddiau hyny yn Jones's Hall,