Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y diweddar Mr. Jones, ironmonger, y cyfeiriwyd ati o'r blaen, yn dangos llawer iawn o garedigrwydd at Mr. Hughes, fel y dywed efe ei hunan yn 'Methodistiaeth Cymru,' ac hefyd at y pregethwyr fyddai gydag ef tan addysg. Mynych iawn y byddai yn gwahodd y naill a'r llall o honynt i fyned i'w thŷ, yn High-street, i gadw'r ddyledswydd deuluaidd. Bwlch mawr yn yr hanes, ni dybiem, fyddai peidio a gwneuthur crybwylliad am y chwaer dduwiol, haelfrydig, a charedig hon. Er ei bod yn foneddiges anrhydeddus, yn berchen cyfoeth mawr, yn troi llawer yn mhlith y mawrion, yn cael edrych arni fel un o'r rhai mwyaf parchus yn y dref, eto yr oedd yn gristion gostyngedig a hunanymwadol.

Er mai ychydig nifer oedd yr eglwys yn hen gapel Pentrefelin, a'r rhai hyny gan mwyaf yn isel eu hamgylchiadau, eto gwnaeth ei chartref yn eu plith, gan ystyried ei bod yn wir fraint cael perthyn i'r frawdoliaeth, serch bod yr olwg allanol arnynt yn wael a thlodaidd. Mae Mr. Hughes yn y 'Methodistiaeth' yn codi ei chymmeriad yn uchel iawn.

Dangosodd lawer o ofal am, a charedigrwydd i'r pregethwyr, pan yn yr ysgol yn Fairfield. Yr oedd Mrs. Jones y pryd hwnw yn preswylio yn High-street yn y dref, fel y dywedwyd o'r blaen, yn y tŷ gwychaf yn yr heol ar y pryd, o ddigon. Mae yr hen letty fforddolion hwnw yn etifeddiaeth y teulu eto, ac yn cael ei ardrethu gan un Mr. Lloyd, draper, &c.

Yr ydym yn cofio yn dda, er ys yn agos i driugain mlynedd yn ol, y byddai y wedd a'r olwg oedd ar amryw o bregethwyr y Methodistiaid yn dra gwahanol i'r peth ydynt yn awr. Byddai amryw o honynt ar ddyddiau gwaith, pan ar eu teithiau yn pregethu, yn dyfod at front tŷ Mrs. Jones, a hyny ar gefnau rhyw fân ferliwns, a'u saddle-bags ar y cyfrwyau odditanynt, a'u gwisgoedd, rai o honynt, yn freision a llwydion, a'r olwg arnynt yn wladaidd a thlodaidd. Byddent yn aml, yn herwydd girwindeb y tywydd, a'r ffyrdd tomlyd a deithient, yn ddigon annghymhwys i fyned i dŷ. Er pob peth o'r fath, byddai y foneddiges garedig yn eu cyfarfod ei hunan yn front y tŷ, yn eu derbyn yn siriol, ac yn ymddwyn tuag atynt