nid fel dyeithriaid ac estroniaid, ond fel cenhadau hedd, a gweision i Grist. Gwelwyd hi laweroedd o weithiau yn cyd-gerdded â'r dynion hyn, ar hyd yr heolydd o'i thŷ ei hun i gapel Pentrefelin, heb ostwng pen, na gwneyd ysgwydd i gilio. Mae yn rhaid fod ynddi râs mawr, a rhaid fod gostyngeiddrwydd a hunanymwadiad yn llywodraethu ei chalon. Bu ei thŷ yn amser ei phriod, ac yn ei hamser hithau ar ol ei phriod, yn unig letty yn y dref i bregethwyr y Trefnyddion Calfinaidd, am flynyddau lawer; ac nid oedd dim ar a allai yn ormod ganddi ei wneuthur at gysuro a lloni y rhai a bregethent y gair. Clywsom hen forwyn i Mrs. Jones, yr hon ar y pryd oedd yn ferch ieuangc grefyddol, yr hon hefyd tra yr ydym yn ysgrifenu'r hanes sydd eto yn fyw, yn dyweyd ei bod yn gwybod y byddai Mrs. Jones yn rhoddi llawer o arian yn nwylaw pregethwyr, yn enwedig rhai isel eu hamgylchiadau, a rhai y byddai eu teuluoedd yn fawrion: gwnai hyny yn hollol annibynol ar yr hyn a gyfrenid iddynt gan yr eglwys. Y ferch ieuangc hon, wrth drefnu'r ystafell un boreu, yn yr hon y cysgai'r pregethwr y noson o'r blaen, a gafodd hanner coron ar y carped, yn agos i'r gwely; cymmerodd ef i'w meistres, a dywedodd wrthi y lle y cafodd ef. 'Hanner coron ydyw hwn (ebe hi wrth y forwyn) a roddais i yn llaw William Jones, Rhuddlan, y dydd o'r blaen.' Y cyfle cyntaf a gafwyd, rhoddwyd yr hanner coron i'r gŵr a'i collodd o'i logell. Fel hyn, trwy'r blynyddoedd, y byddai y foneddiges haelfrydig hon yn rhoddi yn nwylaw pregethwyr lawer iawn o'i harian. Byddai yn werth i ymdeithydd Methodistaidd, pan yn myned trwy High-street yn y dref, daflu ei olygon ar yr hen gartrefle bythol gofiadwy, lle y byddai holl dadau y Methodistiaid, o'r de a'r gogledd, yn derbyn y caredigrwydd mwyaf.
Yn mhen oddeutu ugain mlynedd ar ol symud yr addoliad o Bentrefelin i Abbot-street, fe gymmerodd y foneddiges hon hen chwaer gyda hi, ac aethant i dalu ymweliad â'r hen gapel, yr hwn erbyn hyn, er's blynyddau, oedd wedi ei wneyd yn siop gof hoelion. Wedi cyraedd y lle, aeth y ddwy i mewn; Mrs. Jones wedi troi ac edrych o'i chwmpas, a wylodd y dagrau yn hidl, ac a ddywedodd,