Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'O ryfedd, dyma'r fan ag y gwelais i y nardis ar y bwrdd ddegau o weithiau, yn pêrarogli yn sweet a hyfryd; ïe, dyma'r fan, er mor salw ei wedd, ag y cafodd fy enaid tlawd lawer gwledd felus.' Yr oedd sefyll yn y lle am ychydig funydau, ac adgofion o'r hen flynyddoedd gynt yn cael adgyfodiad yn ei hysbryd, yn peri fod tymherau'r hen foneddiges yn myned yn llaprau yn y lle. Fe fu i'r chwaer rinweddol, garedig, a theimladwy hon, wneuthur llawer aelwyd oer yn aelwyd gynhes; llawer cylla gwag yn gylla llawn; llawer cefn llwm a wisgwyd ganddi hyd glydwch; ïe, llawer gwely, yr hwn yr oedd ei gwrlid yn fyr a theneu, a orchuddiwyd ganddi â gwrthbanau mawrion, tewion a chynhes. Mae hen forwyn iddi yn awr yn fyw, yr hon sydd yn barod i dystio y byddai fel Job yn chwilio allan y tlodi nas gwyddai am dano. Gadawn yr hen chwaer hon, yn awr, y Ddorcas Gymreig, heb ddyweyd dim yn rhagor am dani, mwy na dymuno heddwch i'w llwch.

Soniasom o'r blaen am y ddau flaenor cyntaf, y rhai a wasanaethasant yn unig yn nghapel Pentrefelin. Awn yn mlaen yn awr i sôn am y dosbarth nesaf o flaenoriaid, y rhai a wasanaethasant mewn rhan yn Mhentrefelin, ac mewn rhan yn Abbot-street. Y cyntaf yn y rhestr ydyw, Daniel Jones; brawd oedd hwn i Thomas Glyn Jones, Ffynnon Groew: Thomas Edwards hefyd; Isaac Kerkham; a Richard Hughes; yr hwn, tra yr ydym yn ysgrifenu yr hanes, sydd eto yn fyw, a'r unig un o'r hen flaenoriaid fuont yn cyd-oesi âg ef. Brawd ydyw ef i'r diweddar Barch. J. Hughes, Gwrecsam, a Liverpool yn ei flynyddau olaf. Yr oedd Daniel Jones, yn y dyddiau hyny, yn ddyn ar y blaen megys, ac yn rhagori mewn rhyw bethau ar ddosbarth lled fawr o swyddogion y dyddiau hyny. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth led helaeth; a manwl iawn yn mhob peth. Yr oedd yn hynod o'r llafurus a medrus gyda'r ysgolion sabbothol, a hyny yn lled fuan ar ol eu sefydliad. Bu Mr. Charles, o'r Bala, ar ben ei anfon i Lundain, a hyny yn fuan ar ol sefydlu y Feibl Gymdeithas. Bwriedid iddo fod at wasanaeth y Gymdeithas, yn benaf gydag argraphu y Beiblau Cymreig. Pa beth a rwystrodd ddwyn hyny i ben, nid ydym yn gwybod. Yr oedd yr hen frawd