hwn, yn ei ddyddiau diweddaf, yn ddarostyngedig i fyned yn bur isel ei feddwl, ac i ddychymygu y byddai yn sâl, pan mewn gwirionedd nad oedd dim arno, ond rhywbeth yn ei fympwy dychymygol ef ei hunan. Gwelsom ef cyn hyn, hir ddydd hâf, yn y gwres a'r poethder mwyaf, yn rhoddi o wisgoedd am dano, ddyblygion ar ddyblygion, bron hanner pwn asyn: byddai yn arfer, pan yn yr ystât meddwl hwnw, a gwisgo siôl fawr a thew am ei wddf, fel mai prin, ar brydiau, y gallem weled blaen ei drwyn Pan y byddai yn dyweyd rhywbeth yn y cyfarfod eglwysig, byddai yn gwneyd hyny yn gyffredin gan gerdded ar y pryd, yn ol a blaen ar hyd llawr y capel. Wrth ei weled fel hyn yn ymsymmud yn ein plith, a'r fath lwyth o wisgoedd am dano, yr oedd yn anhawdd iawn peidio gwenu. Safai yn sydyn weithiau wrth gerdded felly, a dywedai, 'Pe gwyddwn y gwrandawech yn well arnaf, mi a darawwn fy nhroed yn y llawr;' ac efe a wnai felly ar y pryd, nes cyffroi pawb o'i gwmpas. Mae yn ddrwg genym hysbysu, fod rhan fawr o ganol ei oes wedi myned heibio heb iddo fod o nemawr wasanaeth cyhoeddus i grefydd Dygwyddodd hyn yn herwydd dyryswch yn ei fasnach a'i amgylchiadau. Bu farw wedi cyraedd gwth o oedran, yn gristion cywir, gloew a phrofiadol. Yr oedd efe a'r diweddar Barch Thomas Jones, o Ddinbych, yn gyfeillion mynwesol, ac yn arfer ysgrifenu at eu gilydd lythyrau lawer. Yr oedd Mr. Daniel Jones wedi llwyr benderfynu yn ei feddwl, pe cawsai fyw ychydig yn hwy, i ysgrifenu yr hyn yr ydym ni yn awr yn ei ysgrifenu: buasai yr hyn sydd i ni erbyn hyn wedi dyfod yn beth anhawdd, iddo ef yn beth rhwydd ac esmwyth. Yn gysylltiedig â hyn, yr oedd Mr. Jones wedi bwriadu. cyhoeddi llawer o'r ohebiaeth fu rhyngddo ef a'r Parchedigion T. Charles, Bala, a T. Jones, Dinbych. Cyn cwblhau o hono yr hyn a arfaethasai, efe a hunodd, ac a ddodwyd yn y beddrod gyda'i dadau.
Blaenor arall a enwasom oedd Thomas Edwards, hen ŵr heb fod yn fawr o gorpholaeth; penfoel, glandeg a siriol; hynod o'r twt bob amser yn ei wisgoedd. Er na chafodd nemawr fanteision yn ei ddyddiau boreuol, eto yr oedd wedi cyraedd gwybodaeth fanwl yn yr ysgrythyrau, ac wedi dyfod yn dduwinydd da. Yr oedd yn