Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swyddog eglwysig gofalus a ffyddlon; yn yr ystyr hwnw, yn un o'r rhai goreu a adnabuasom erioed. Hefyd, yr oedd yn dywysog pan ar ei luniau yn gweddïo. Tynodd ei gwys yn uniawn i'r pen, a bu farw a'i enaid yn orlawn o dangnefedd a gorfoledd yr efengyl.

Y trydydd a enwyd oedd Isaac Kerkham. Daeth Mr. Kerkham o Gaergwrle i Wrecsam oddeutu'r flwyddyn 1818, efe a'i wraig, a dwy chwaer i'r wraig yr ieuengaf, wedi hyn, a ddaeth yn wraig i Mr. Richard Hughes, stationer, o'r dref hon, a mam Mr. Charles Hughes, yr hwn wedi hyn a ddewiswyd yn un o ddiaconiaid yr achos Methodistaidd Seisnig yn y dref. Y chwaer arall, a'r hynaf, a ddaeth yn wraig i Mr. Pearce, Beast Market. Bu y ddwy byw yn addurn i grefydd, a buont feirw a'u gobaith yn y Gwaredwr. Yr oedd Mr. Kerkham yn ddiacon eglwysig pan yn Nghaergwrle, cyn dyfod o hono i Wrecsam yr oedd efe hefyd yn ganiedydd rhagorol o beraidd, yn berchen llais uchel a soniarus. Efe ydoedd blaenor y gân yn Nghaergwrle, a rhoddwyd y gorchwyl o ddechreu canu iddo yn Wrecsam, yn lled fuan wedi ei ddyfodiad i'r lle. Un o'r hen sort oedd Kerkham yn canu. Byddai rhyw bereidd-dra swynol yn ei lais. Canai rai o hen donau yr amseroedd hyny, trwy hir leisio, nes gwneyd y canu yn effeithiol iawn. Yr oedd rhyw grynfa naturiol yn ei lais, ac yr oedd hyny rywfodd yn ei wneuthur yn llawer mwy dymunol ac effeithiol. Byddent weithiau yn yr addoliad yn dyblu ar ddyblu, a byddai rhyw sain moliant ac addoli yn y dyblu. Nid ydym yn gwybod a oedd Kerkham yn deall rheolau cerddoriaeth ai nad oedd; nid ydym yn gwybod i ni erioed weled llyfr notes o un math yn ei law. Beth bynag am hyny, yr oedd fel un yn canu â'r ysbryd, ac â'r deall hefyd, gan ymbyncio yn ei galon foliant yr Arglwydd. Yn fuan wedi ei ddyfodiad i'r dref, fe'i galwyd gan ei frodyr yn y lle i wasanaethu swydd ddeaconiaeth yn eu plith. Yr oedd yn ddyn o dalentau naturiol lled fawr, galluog i ddyweyd ei feddwl, ac o ansawdd ysbryd pur benderfynol. Yr oedd yn un rhagorol fel yr oedd yn meddu ysbryd gweddi, ac hefyd yn un medrus a chymhwys yn y cyfarfodydd eglwysig; sef mewn ymddiddan, cynghori, rhybuddio, a chysuro'r saint. Ond fel y dywed yr