hen ddihareb, 'Yr hwn sydd heb ei fai sydd hefyd heb ei eni.' Mae rhai yn dyweyd, ag oeddynt yn ei gofio ac yn ei adnabod yn dda, ei fod fel un yn tybied fod tipyn o waed brenhinol yn ei wythïenau, ac amcanai weithiau at fod yn dipyn o frenin; a byddai ei lywodraeth o'r braidd yn tueddu i fod yn awdurdodol, caled, a thra arglwyddiaethol. Fe allai fod hyny yn fwy tueddol i ambell un yn y cyfnod hwnw nag yn y cyfnod presenol, a hyny o herwydd amryw bethau. Dyn gwir dda oedd Kerkham er hyny, a barnu yr ydym yn ddiduedd mewn barn cariad, bod ei ddyben yn gywir yn yr oll, os oedd hyn yn dipyn o goll a ffaeledd ynddo. Bu yntau a'i wraig yn anrhydedd i grefydd, yn eu bywyd a'u marwolaeth.
Fe fu yn ein plith rai eraill diweddarach yn gwasanaethu fel blaenoriaid, y rhai, erbyn hyn, ydynt oll wedi huno. Mwy priodol ac amserol fuasai coffâu am y brodyr nesaf hyn yn y cyfnod diweddaf o'r hanes, ond er mwyn iddynt fod yn gryno gyda'u gilydd, esgusoder ni am goffâu am danynt yn y lle hwn. Gwnawn yr un modd hefyd am ein gweinidogion a'n pregethwyr ymadawedig, er y buasai yn fwy amserol iddynt hwythau fod yn y cyfnod olaf. Un o'r rhai hyn, a'r cyntaf a enwn, oedd gŵr o Rosesmor, o'r enw Thomas Jones. Yr oedd hwn yn flaenor mewn eglwysi eraill cyn dyfod o hono i Wrecsam. Hen ŵr call oedd yntau, pur gyfarwydd yn yr ysgrythyrau. Cyfarfyddodd y brawd hwn â phrofedigaeth meddwl lem iawn, a hyny bron yn niwedd ei ddyddiau; canys fe'i hudwyd, ac fe'i temtiwyd o'r bron, i wadu'r ffydd.
Yr oedd mab i Thomas Jones, o'r enw Dan, yr hwn a aeth drosodd i'r Amerig, ac yno a aeth yn un o ddisgyblion y diweddar Joe Smith, ac felly yn un o 'Saint y dyddiau diweddaf.' Ar ol marwolaeth Joe, fe ddychwelodd Dan i'r wlad hon. Yn fuan wedi iddo fod yn y dref, yn nghymdeithas ei dad, bu agos iddo a'i siglo, a'i hudo i gredu yr un ynfydrwydd ag ef ei hunan, sef athrawiaethau penchwiban a ffol Joe Smith. Fodd bynag, fe welodd yr hen frawd ei ynfydrwydd cyn myned o hono yn rhy bell, ac fe'i gwaredwyd megys o safn y llew. Bu farw gan ffieiddio y syniadau hyny, ac ymddiried ei enaid ar yr hen wirionedd a gredasai gynt.