Un arall oedd William Evans. Excise officer oedd hwn, a ddaeth i'r dref hon o ddeheudir Cymru. Hen ŵr duwiol oedd hwn hefyd, call, tawel, diniwed, a diymhongar. Nid hir y bu yn ein plith; yr oedd yn gristion amlwg, yn gwasanaethu ei swydd yn ffyddlon: yr oedd yr hyn oll a ddywedai yn ein cyfarfodydd eglwysig yn profi ei fod yn ddyn o syniadau ysbrydol a phrofiadol. Ar ryw foreu sabboth, bu farw yn sydyn, ac annysgwyliadwy i bawb. Hen frawd arall oedd Thomas Jones, o Gaerlleon, saer llongau wrth ei gelfyddyd. Symmudodd o Gaer i'r Runcorn, a daeth oddi yno i Wrecsam. Hen frawd oedd hwn yn rhagori mewn bod yn grefyddol: bob amser ar uchel-fanau'r maes, ac yn hynod o'r awelog. Bu yntau hefyd farw mewn ffydd, yn gristion defnyddiol gyda'r achos i ddiwedd ei oes. Fe fu yma un o'r enw William Owen, er's 60 mlynedd yn ol, ond nid ydym yn bur sicr a oedd efe yn flaenor; dychwelodd i Manchester, o'r lle hefyd y daethai, ac yno y bu farw. Yr ydym yn cofio am ŵr o'r enw Owen Ellis; efe y pryd hwnw yn yr hen gapel oedd yn dechreu canu. Yr oedd hyny cyn amser Mr. Kerkham. Yr ydym wedi methu a chael allan i foddlonrwydd a oedd efe yn flaenor ai nad oedd. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf llafurus yn y lle, yn enwedig gyda'r ysgolion sabbothol.
Gan i ni roddi crybwylliad byr am yr hen flaenoriaid yn y lle, nid anmhriodol fyddai gwneyd hyny hefyd am y pregethwyr. Y cyntaf ydym yn ei gofio yn y lle, er's 60 mlynedd yn ol, oedd un o'r enw Morris Evans; brawd i Enoch Evans, ac wyr i'r hybarch John Evans, o'r Bala. Nid hir y bu yn Wrecsam, nac yn y cymmydogaethau hyn. Dyn ydoedd ag oedd yn ddarostyngedig i wneyd troion plentynaidd a digrifol ar brydiau. Mae yn ffaith am dano, pan ar ei daith ryw sabboth, iddo ddisgyn oddiar ei geffyl, a'i rwymo wrth bost llidiart, a myned ar lyn o rew, ac ymddifyru a mwynhau ei hunan mewn slerio. Wrth weled nad oedd wedi dyfod i'r lle erbyn yr amser i ddechreu yr oedfa, anfonwyd brawd i chwilio am dano. Wedi myned rhyw gymmaint o ffordd, daeth y genad i'w gyfarfod, ac a'i cafodd, fel y dywedwyd, yn ymbleseru mewn slerio ar y llyn rhew. Wedi i'r genad ei gyfarch, a'i alw, rhoes heibio,