esgynodd ar ei farch; prysurodd tua'r lle; wedi cyraedd y fan, aeth i'r pulpyd, a phregethodd heb feddwl am funyd ei fod wedi gwneyd yr hyn na ddylasai. Gofynwyd iddo ar ol yr oedfa, paham y gwnaethai felly? Ei ateb didaro a digyffro oedd, 'ei fod yn ei deimlo ei hunan yn bur oer, a'i fod wedi myned ar y llyn i slerio, er mwyn cael tipyn o wres i'w gorph.' Yr oedd yn ddyn o feddyliau coeth, er ei fod yn rhyw fwhwman mewn llawer o bethau. Yr oedd yn gwmni difyrus. Pregethai yn rhagorol ar brydiau. Clywais bregethwr yn dyweyd iddo gael oedfa yn Sasiwn Llanidloes, o flaen John Elias, er ys blynyddau lawer yn ol, yr un fwyaf effeithiol yn y cyfarfod. Yr oedd yn llawn melancholy. Aeth oddiyma i Lundain, er's dros hanner cant o flynyddau yn ol. Nid ydym yn gwybod nemawr am dano ar ol hyny, ond gwyddom na bu yn llawer o anrhydedd i grefydd yr efengyl yn y ddinas hono, a hyny yn benaf oherwydd fod y diodydd meddwol wedi bod yn faglau ac yn rhwydau iddo.
Yr ail y gwnawn grybwylliad am dano ydyw y Parch. Ellis Phillips. Pregethwr ymarferol da oedd Phillips, a phregethodd lawer yn Abbot-street, pan na byddai, oherwydd ei iechyd, yn alluog i fyned oddicartref. Fel y crybwyllwyd, yr oedd ei bregethau gan mwyaf o duedd ymarferol; ynddynt hefyd yn y cyffredin y byddai yn manylu ac yn beirniadu llawer. Mwyaf a wrandawem arno, mwyaf oedd ein hawydd i'w glywed drachefn. Dioddefodd flynyddau o gystudd, a hyny o ryw natur nychlyd, heb fod am flynyddau nac yn waeth nac yn well. Mewn cysylltiad â'i wraig, cafodd lawer o gyfoeth y diweddar Mr. Lloyd, druggist, Caerlleon. Yr oedd rhai yn barnu, y buasai yn well i'w iechyd corphorol, ac yn well hefyd o ran ei ddefnyddioldeb yn ei gysylltiad â chrefydd, pe buasai heb ei gael. Byddai y bibell bron yn ddidor yn ei enau, yn mygu fel hen odyn.
Y trydydd a enwn ydyw y Parch. John Jones, Penybryn. Pregethwr da, trefnus, cryno, a melus iawn oedd y brawd hwnw. Yr oedd rhywbeth mwy deniadol ac effeithiol yn ei bregethau nac yn mhregethau Phillips. Yr oedd ef ei hunan hefyd a rhywbeth mwy