Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

serchog a chymdeithasol ynddo na'r diweddaf. Byddai Phillips yn rhagori mewn manylu a beirniadu, byddai yntau yn rhagori mewn melusder.

Y pedwerydd a gawn ei enwi ydyw y Parch. William Edwards, Town Hill. Brawd ar ei gyfer oedd hwn, dipyn yn ei bregethau yn fwy anorphenol na'r llall, ac yn llai diwylliedig ei feddwl. Pregethwr gwir ddefnyddiol oedd efe er hyny. Edrychid arno yn ngoror Clawdd Offa yn un o'r rhai blaenaf yn mhlith ei frodyr o ran defnyddioldeb, os nad Ꭹ blaenaf o gwbl. Yr oedd efe a Mr. Jones yn rhai gwir ragorol yn y cyfarfodydd eglwysig. Mr. Edwards oedd y prif offeryn fu yn sefydlu yr achos Seisnig yn y dref, yn mhlith y Methodistiaid, yr hwn erbyn hyn sydd wedi dyfod yn flodeuog a gobeithiol.

Y pummed yn y rhestr oedd y Parch. William Hughes, gynt o'r Tabernacl, goror Sir Drefaldwyn. Gŵr call iawn oedd Mr. Hughes, yn meddu deall da yn yr ysgrythyrau. Byddai ei bregethau bob amser yn dangos ei fod yn ddyn o synwyr cyffredin mawr. Traethai y gwirionedd yn hynod o'r digyffro a disêl: nid oedd o herwydd hyny mor boblogaidd â rhai o'i frodyr. Bu farw fel y bu byw, yn hynod o'r tawel a digyffro. Ychydig ddyddiau cyn ei farw, pan oedd yn eistedd yn ei gadair yn y parlawr, disgynodd gwybedyn ar gefn un llaw iddo. Wedi edrych arno am beth amser, a gadael iddo, efe a gododd y llaw arall, ac a laddodd y gwybedyn; ac wrth wneuthur hyny efe a ddywedai, 'Paid, gâd dipyn i'th frawd y pryf, wedi yr elwyf i'r bedd.' Yr oedd yn ymddangos nad oedd dim mwy o ofn na chyffro arno wrth feddwl am angau a'r bedd na phe buasai yn meddwl am y gwely yn yr hwn y cysgai.

Fe fu yma un yn pregethu o'r enw John Lindop. Dechreuodd bregethu yn lled ieuangc. Gan mai Saesneg oedd yr iaith rwyddaf ganddo, yn y Goror y llafuriai. Yr oedd yn ddirwestwr cadarn, ac yn un o'r rhai cyntaf yn ein tref a arwyddodd yr ardystiad dirwestol. Yr oedd yn areithiwr campus ar ddirwest, a dygodd fawr sêl dros yr achos. Bu farw oddeutu'r flwyddyn 1837, odditan effeithiau llucheden boeth.

Y nesaf a enwn o'r rhai sydd wedi meirw ydyw un John Owens.