Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dechreuodd hwn bregethu pan oddeutu 16 neu 17 oed. Bachgen duwiol a difrifol oedd John, ac yr oedd wedi dyfod yn berchen gwybodaeth fawr. Dechreuodd bregethu pan oedd yn yr ysgol gyda Mr. Hughes. Yr oedd Mr. Hughes yn hoff iawn o hono, a dangosai lawer o ofal am dano. Yr oedd o gyfansoddiad corphorol gwael, yn hynod afiach. Edrychai yn debygach i ddyn 30 oed nag i fachgen 17 oed. Oherwydd ei dduwioldeb, ei wybodaeth, ei ddifrifwch, a'r hen olwg oedd arno, gelwid ef yn Wrecsam 'y Dr. Owen.' Bu farw cyn cyraedd o hono ugain oed.

Gan fod y Parch. Thomas Francis yn cyd-weithio ar y maes, am flynyddau, â'r pedwar brawd cyntaf a enwasom, sef y Parchedigion E. Phillips, J. Jones, W. Edwards, a W. Hughes, teilwng ni dybiem, yn y fan hon, ydyw coffâu yn barchus ei enw yntau hefyd, serch ei fod eto ar dir y byw. Amser dedwydd ar yr eglwys yn Abbot-street oedd yr amser pryd yr oedd y pump gweinidogion hyn mewn undeb, cariad, a chyd-weithrediad, yn porthi y rhai oedd dan eu gofal yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ond wele yn awr bedwar o'r pump wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur. Priodol iawn y gall Mr. Francis ddyweyd yn ngeiriau y genad a ddaeth at Job, 'A minnau fy hunan yn unig a ddiengais.'

Cyn gadael hyn o grybwylliad am y pregethwyr fu yn ein plith, dymunwn goffâu yn barchus am yr hen frawd a thad, Mr. Evan Llwyd, gynt o Adwy'r Clawdd. Yn Wrecsam y gorphenodd yntau ei yrfa, oddeutu'r flwyddyn 1822. Yr oedd ar y pryd, oherwydd oedran a llesgedd, yn analluog i wneyd dim yn y weinidogaeth er's amser maith. Porthodd lawer ar braidd Crist, yn hyn debygid yr oedd yn rhagori. Ei oedran pan y bu farw oedd 76. Yr oedd mwy o ôl ac effaith ei bregethau yn yr eglwysi na llawer o'r rhai hyny fyddai yn cyffroi y cynnulleidfaoedd y peth a'r peth a ddywed Evan Llwyd oedd gan lawer.

Yn olaf, y mae genym i'w osod yn rhestr y pregethwyr fu yn ein gwasanaethu, y diweddar Barch. Richard Jones. Bu farw Mr. Jones yn Grosvenor Road, Wrecsam, Hydref yr 20fed, 1867, yn 49 mlwydd oed. Daeth i Wrecsam o Wednesbury, yn Lloegr, yn y flwyddyn methasom a chael