1862, yn ol cynghor a chyfarwyddyd meddyg; yn benaf er mwyn iechyd; canys nid oedd bod yn y dref a'r cymmydogaethau myglyd hyny yn dygymmod âg ef. Yr oedd clyw Mr. Jones wedi anmharu yn fawr, er's blynyddau, fel nad oedd yn gallu clywed nemawr ddim yn moddion grâs, oddigerth fod yr un a lefarai yn gwneyd hyny yn uchel iawn. Er ei fod felly, yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf yn mhob cyfarfod fyddai yn y capel. Os cyfarfod eglwysig, byddai yn hwnw; os yr un gweddi, byddai yn hwnw hefyd. Er pob anfantais, byddai yn awyddus iawn i glywed, hyd yr oedd bosibl, bob peth os gallai. Byddai yr offeryn at iddo glywed yn ddyfal yn y glust, os byddai rhyw obaith iddo allu clywed. Byddai bob amser yn fuddiol iawn yn ein cyfarfodydd eglwysig. Gan y byddai yn fynych yn mhlith y gynnulleidfa ar lawr y capel, ac yn myned a'i offeryn clywed at enau yr hwn fyddai yn adrodd ei brofiad, neu ddyweyd rhywbeth arall, tybiem y byddai yn mwynhau y rhan hwn yn well na dim arall. Byddai bob amser yn barod iawn, ac yn llawn o ryw arabedd difyrus. Yr oedd ganddo yn ei ymyl ystôr helaeth o ryw fân gydmariaethau, y rhai oeddynt yn tueddu yn fawr, nid yn unig i egluro yr hyn a ddywedai, ond hefyd i rymuso'r pethau, a pheri iddynt wneyd argraff ar y côf beth bynag, ac ni a obeithiwn ar y galon hefyd. Gwnaeth ei ffordd i ymddiried, mynwes, a serchiadau ei frodyr yn Wrecsam, a hyny yn ddiattreg. Yno y bu fyw, ac yno hefyd y bu farw. Nid ydym yn rhestru Mr. Jones yn mhlith mawrion talentog y weinidogaeth, byddai beio arnom o bosibl pe gwnaem hyny; nid oedd efe felly yn ei olwg ei hun, nac yn marn ei frodyr chwaith; eto yr ydym yn dymuno caniatâd i'w restru ef yn mhlith y ffyddloniaid, ac yn un o'r rhai ffyddlonaf: nid ydym yn petruso ei osod ar y blaen ac yn y front odditan y cymmeriad yma, oblegid yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth. Fel cristion yr oedd yn unplyg, dirodres, a diymhongar. Fel cyfaill yr oedd yn un ffyddlon, cymmwynasgar, a llawn cyd-ymdeimlad. Fel priod a thad, yr oedd yn un serchog ac anwyl. Yr oedd ei dŷ, ei fwrdd, ei wely, ei arian, a'i geffyl, fel wedi eu cyssegru ganddo at wasanaeth crefydd, a'r oll yn cael eu gwneyd â gwyneb siriol, calon lawen, a dwylaw
Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/54
Gwedd