hael. Dangosodd Mr. Jones lawer o haelfrydedd at ein capel newydd. Er ei fod yn glâf yn ei wely ddydd yr agoriad, eto efe a anfonodd bum' punt i'w dodi yn y casgliad.
Ar y 25ain o Hydref, hebryngwyd gweddillion marwol ein hanwyl gyfaill, a dodwyd hwy yn mhriddellau mynwent y Rhos-ddu, yr hon sydd gerllaw y tŷ lle y bu farw ynddo. Yr oedd oddeutu 32 o weinidogion a phregethwyr yn y claddedigaeth, y rhai a gerddent o flaen y corph, a'r perthynasau ac eraill ar ol, oddeutu 130 mewn rhifedi. Cymmerodd amryw o'r gweinidogion ran yn y gwasanaeth wrth y tŷ, a'r Parch. J. H. Symond yn benaf wrth y bedd. Hefyd, wrth y bedd, fe ddywedodd Mr. Price, diweddar o Birmingham, air, yr hwn ydoedd yn hen gyfaill i Mr. Jones, ac yn gwybod llawer am dano. Gadawodd briod anwyl, a dau o blant, i alaru ar ei ol.
Clywsom am hen ŵr arall fu yn preswylio yn y lle hwn, er's oddeutu 60 mlynedd yn ol, ond nid ydym yn gallu galw i gofion ein bod yn gwybod nemawr ddim am dano ein hunain. Ei enw ydoedd Rolant Llwyd; crydd wrth ei alwedigaeth. Hen gristion cywir oedd yntau, a chynghorwr buddiol, a phregethwr da. Yr oedd yn byw yn Mhentrefelin, yn agos i'r capel. Gadawodd y dref hon ac aeth i Manchester; ac yno y gorphenodd ei yrfa.
'Does dim anmhriodol, ond odid, am grybwyll yn hyn o hanes, mai yn eu cysylltiad â'r eglwys yn Wrecsam y dechreuodd y tri brawd canlynol ar waith y weinidogaeth; sef, Evan Evans[1]; Richmond L. Roos; a W. R. Evans, Halghton Mills. Mae'r Parch. Evan Evans yn awr wedi ei ddewis yn weinidog a bugail yn eglwysi y Methodistiaid yn Crewe a Hanley. Y Parch. Richmond L. Roos ar eglwys y Gelli, &c., yn Herefordshire. Mae Mr. W. R. Evans, Halghton Mills, yn awr yn y Bala, yn derbyn ei addysg athrofaol. Gallasem enwi dau neu dri yn rhagor o bregethwyr, y rhai fu yn gwasanaethu'r corph am flynyddau, ac yn aelodau yn yr eglwys yn y lle hwn, ac hefyd yn preswylio yn y dref; ond gan i ryw amgylchiadau a phrofedigaethau beri dyryswch ac attalfa, doeth fe allai, yn hyn o hạnes, fyddai myned heibio ar hyn o bryd, heb ychwanegu dim yn helaethach am danynt.
- ↑ darllener Evan Jones Evans. (gw. tud 100)