Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PEDWERYDD CYFNOD.

YN YR HWN Y CYNNWYSIR

YSGOGIAD at adeiladu capel newydd—adeiladu Capel Abbot-street—y bedyddio cyntaf yn y lle—bedyddio gwraig mewn oed—priod y fedyddiedig—dyled y capel—diofalwch yn ei herwydd—yr addoldŷ yn suddo mewn dyled-yr effaith o hyn—ymosod ar dalu'r ddyled—cynllun at hyny—gorphen talu-Jubili―y nifer a ymgymmerodd â thalu―gwedd lwyddiannus ar yr achos—y capel yn rhy fychan—ffyddlondeb y gweinidogion—ystorm yn ymfygwth yn yr eglwys—y gwyntoedd a'r tonau yn tawelu—ysgogiad at gael bugail—yr eglwys yn cyd—ymgynghori—yn gweddio—dewis y Parch. J. H. Symond.—Ysgogiad at gael capel newydd—prynu tir—adeiladu— yr eglwys yn fam i eglwysi eraill—Bodo Rowlant—BershamWilliam Owen—Charles o'r Bala-Sasiwn plant-Bangc y ffwrnes -y Tabernacl yn Rhostyllen-ymweliad cyntaf y Trefnyddion Calfinaidd â goror Clawdd Offa--myntai ryfedd--Bangor-is-y-Coed -y sabboth olaf yn Abbot-street—y teimlad ar y pryd—nifer y gweinidogion—y diaconiaid—y cymmunwyr—y plant—yr ysgol sabbothol—gwrandawyr—ansawdd yr achos ar y pryd—Cymdeithas Dorcas—brâs ddarluniad o'r capel—rhesymau dros ei wneyd mor fawr.

ODDEUTU'R flwyddyn 1819, a'r flwyddyn ganlynol, oherwydd fod hen gapel Pentrefelin yn lle bychan, gwael, ac anghysurus, a'r lease hefyd ar ddirwyn i'r pen, os nad oedd wedi dirwyn yn gwbl; meddyliodd y brodyr am gael capel newydd, helaethach, ac yn nes i ganolbarth y dref. Yn y flwyddyn 1821 adeiladwyd addoldŷ yn Abbot-street. Yr oedd yr adeilad hwnw ar y pryd yn un cymhwys i'r gynnulleidfa, o ran maint a lle. Mae yn ymddangos i'r addoldŷ gael ei gyssegru trwy bregethu ynddo, yn yr un flwyddyn ag yr adeiladwyd ef. Pa amser ar y flwyddyn yr agorwyd y capel, a phwy oedd y gweinidogion a weiniasant ar yr achlysur,