gwybod er pob ymchwiliad. Ryw amser cyn diwedd yr un flwyddyn, mae yn ymddangos mai cyntaf-anedig y Parch. John Hughes a'i briod gyntaf ef, a chyntaf-anedig Mr. Edward Rogers a'i briod, yn awr o Seacombe, ger Birkenhead, oedd y ddau blentyn cyntaf a fedyddiwyd yn nghapel newydd Abbot-street. Gweinyddwyd yr ordinhâd ar y ddau gan y Parchedig John Roberts, o Langwm. Mae testyn y sylwadau a wnaeth efe ar yr achlysur i'w weled yn y bennod gyntaf o Lyfr Cyntaf Samuel. Nid oedd yr un a adroddodd wrthyf yr hanes yn cofio i sicrwydd pa eiriau yn y bennod. Gwnaeth sylwadau neillduol, ni dybiem, oddiwrth yr awgrymiadau a glywsom ar weddi Hannah—ei haddunedau, os ca'i fab—a'r awyddfryd angherddol oedd yn ei chalon am gael cyflwyno a magu y bachgen i'r Arglwydd. Ni a dybiem hefyd, oddiwrth a glywsom, fod yr addysgiadau a'r cymmwysiadau a wnaeth oddiwrth y geiriau at y rhieni hyny ag oeddynt yn magu a dwyn plant i fyny, yn rhai gwir ddeffrous a difrifol.
Hefyd, yn mhen y ddwy neu dair blynedd ar ol hyn, sef oddeutu 1825 neu 1824, o'r hyn lleiaf felly y dywedwyd i ni, fe fedyddiwyd yn yr un capel wraig ganol oed, o'r enw Mary Parry. Mam oedd Mary Parry i'r hwn, yn mhen blynyddoedd ar ol hyn, a ddaeth i fod y Parchedig John Parry, athraw yn Athrofa'r Bala. Gweinyddwyd yr ordinhâd gan y Parch. John Jones, Treffynnon. Yr oedd gweinyddu'r bedydd trwy daenellu ar berson mewn oed yn beth, y pryd hwnw, lled anghyffredin a hynod. Yr oedd Mary Parry yn un led dal, meddent hwy, hyny ydyw dipyn yn dalach na'r cyffredin o ferched. Yr oedd yr hen frawd o Dreffynnon dipyn yn fyr mewn corpholaeth. A chan fod Mrs. Parry fel hyny dipyn yn dalach na John Jones, nid mor hawdd iddo oedd cael y dwfr i fyny. Wrth i John Jones âg un llaw ogwyddo ei phen tuag at ei gwegil, fel ag i gael y wyneb i'r gosodiad mwyaf cyfleus i dderbyn taenelliad y dwfr, ac yntau dipyn yn fyrach na'r fedyddiedig, achlysurodd hyny wên ddiniwed am ennyd ar wyneb rhai; ond fe ddarfu yn y fan, fel clindarddach drain tan grochan. Yr oedd pob difrifwch wedi ei adfeddiannu yn y foment. Gweinyddwyd yr ordinhâd yn nghanol