y symlrwydd mwyaf. Yr oedd Mrs. Parry, o bosibl, wedi ei dwyn i fyny yn un o wrandawyr ein brodyr y Bedyddwyr; o'r hyn lleiaf, felly yr awgrymwyd i ni. Mae'r Bedyddwyr, fel y gwyddys, yn gyson â'u syniadau a'u hegwyddorion hwy eu hunain yn gwrthod bedyddio ond yn unig rhai mewn oed a synwyr, a hyny ar eu proffes a'u dewisiad hwy eu hunain. Gellir casglu oddiwrth y ffaith fod Mrs. Parry heb ei bedyddio, mai un o 'wrandawyr y gair yn unig' ydoedd wedi bod cyn hyn. Mae yn ymddangos iddi gael ei bedyddio y dwthwn hwnw ar ei dymuniad hi ei hunan, cyn iddynt fel teulu ymsymmud o Wrecsam i Manchester. Bydd genym air eto ar ol hyn, cyn y diwedd, i'w ddyweyd am y chwaer hon. Yr oedd ei phriod, fel hithau, yn gristion cywir, unplyg, a dirodres. Byddai pawb bob amser, tra y bu yn perthyn i'r frawdoliaeth yn y lle hwn, yn hoff iawn o hono. Pan yr annogid ef i weddio mewn cyfarfod, gosodai hyny wên serchog ar wyneb nifer mawr o'r rhai fyddai yno ar y pryd, oblegid yr un pennill fyddai yn ei roddi allan i ganu bob amser yn ddieithriad. Y pennill fyddai
'Mi nesaf atat eto'n nes,
Pa les im' ddigaloni;
Mae sôn am danat yn mhob man,
Yn codi'r gwan i fyny.'
Nid yn unig yr un pennill a adroddai, ond gwnai hyny hefyd yn gywir yn yr un dôn, a hyny yn bur effeithiol. Byddai newydd-deb ei ysbryd yn cadw hefyd bob amser newydd-deb yn yr hen bennill.
Aethom, am ennyd, oddiwrth hanes y capel, i sôn am ddau neu dri o bethau a gymmerasant le yn fuan ar ol ei agoriad. Awn yn mlaen yn awr gyda hanes y capel. Mae yn ymddangos mai Mrs. Jones, y cyfeiriwyd ati o'r blaen, oedd yr asgwrn cefn yn nechreuad y gwaith, ac hefyd yn nygiad y gwaith yn mlaen; oblegid ei harian hi a gafwyd i dalu am y tir, a'i harian hi hefyd gan mwyaf a fenthycwyd at adeiladu. Mae yn ddrwg genym orfod hysbysu yn hyn o hanes, fel y ceir gweled eto, i'r eglwys a'r gynnulleidfa, ar ol adeiladu capel newydd âg arian benthyg, eistedd yn dawel ynddo, a