Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny am flynyddau lawer, heb wneuthur un ysgogiad tuag at dalu'r ddyled.

Costiodd pryniad y tir, ac adeiladu Capel Abbot-street, yn y flwyddyn 1821, y swm o £1,100, neu yn rhywle oddeutu hyny. Yn mhen y pedair blynedd ar ddeg, pryd y gwnaed ymchwiliad manwl i'r cyfrifon, cafwyd fod y llogau wedi chwyddo i'r swm o £540. Yr oll oedd wedi ei gasglu a'i dalu o hyn, yn y cyfamser, oedd £380. Y canlyniad o hyn oedd fod y ddyled, yn y cyfamser, wedi myned yn £1,260. Yr oedd dyled y capel felly, yn mhen y 14 o flynyddau, yn £160 mwy na phan adeiladwyd y capel. Yr oedd sefyllfa'r achos, ar ol yr ymchwiliad hwn, wedi dyfod yn beth gwir bwysig. Yr oedd gadael i'r achos yn y modd hwn suddo mewn dyled, fis ar ol mis, flwyddyn ar ol blwyddyn, yn beth nas gallwn ei ddeall: yn hyn nis gallwn gyfiawnhau y brodyr.

Nid ein lle ni ydyw condemnio y frawdoliaeth, nac eistedd yn farnwyr ar yr achos, eto mae yn anhawdd, wrth fyned heibio, i ni beidio a thaflu ein golygon ar yr adfeilion dirywiedig hyn, sef yr achos yn ei ystât o'i bethau arianol. Dichon, er hyny, fod rhyw resymau i'w rhoddi dros yr esgeulusdra hwn, nad ydym ni erbyn hyn yn gwybod dim am danynt. Bu yr ymchwiliad, a nodwyd, i bethau, yn achos i'r rhai hynaf, a mwyaf dylanwadol yn y lle, gydymgynghori pa symmudiad oedd i'w wneyd, fel y gellid nid yn unig attal y ddyled rhag ychwanegu, ond cael allan hefyd ryw gynllun effeithiol i'w lleihau. Ffrwyth cyntaf yr cydymgynghori hwn fu dethol, o'u plith eu hunain, ddau o frodyr i fyned at Mrs. Jones, i'r hon yr oedd tair rhan o bedair o'r arian yn ddyledus. Y brodyr a ddewiswyd i hyn o orchwyl oeddynt Mr. Richard Hughes, stationer, a'r Parch. Thomas Francis. Aeth y ddau frawd at Mrs. Jones dros yr eglwys. Wedi bod o honynt am beth amser yn eistedd ac yn ymddiddan ar yr achos, yr effaith ddaionus o hyn fu i'r brodyr hyny lwyddo i gael gan y foneddiges garedig, drugarog, a haelfrydig, addaw cymmeryd pedair punt y cant o lôg am yr arian yn lle pum' punt y cant; ac nid hyny yn unig, ond eu cymmeryd hefyd o'r amser cyntaf y rhoddodd eu benthyg. Lleihaodd hyn y ddyled yn y fan