i'r swm o gant a deg punt. Wedi derbyn y fath garedigrwydd, addawsant hwythau, nid yn unig dalu y llôgau ond hefyd wneuthur pob ymdrech i dalu i fyny, mor fuan ag y byddai bosibl, holl gorph yr arian. Dychwelodd y brodyr hyn i Wrecsam â chalon lawen, yn nghyd a theimladau gwresog o ddiolchgarwch. Pan yr adroddwyd y peth i'r cyfeillion, disgynodd y newydd ar eu clustiau fel peth dyeithr, ac fel newydd oedd o'r bron yn rhy dda i'w gredu: modd bynag, trôdd allan yn ffaith o wirionedd diymwad. Yn y flwyddyn 1836, ymosodwyd i bwrpas ar ddechreu talu'r ddyled. Daeth chwech o frodyr i'r maes, ac a wnaethant gynnyg i'r holl eglwys, er mwyn, os oedd bosibl, rhoddi cychwyn i'r peth. Y brodyr a wnaeth hyn oeddynt y Parchedigion Thomas Francis, Ellis Phillips, John Jones, a Thomas Jones (Glan Alun), Cefn-y-gadair, hefyd Mr. Richard Hughes, stationer, a Mr. Daniel Jones, merchant. Eu cynhygiad cyntaf hwy oedd, beth bynag a gasglai yr holl eglwys a'r gynnulleidfa mewn blwyddyn o amser, y byddai iddynt hwythau eu cyfarfod â'r un swm, beth bynag fyddai. Yr effaith o hyn fu i'r eglwys a'r gynnulleidfa gasglu yn nghorph y flwyddyn y swm o £60: rhoddasant hwythau hefyd bob un ei £10, a'r canlyniad i'r ymdrech hon oedd talu £120 o'r ddyled y flwyddyn hono. Yn mhen y ddwy flynedd ar ol hyn, gwnaed y cyffelyb gynnyg drachefn, gan y Parchedigion Thomas Francis, John Jones, ac Ellis Phillips, ynghyd a Mr. Daniel Jones, merchant, Mr. Richard Hughes, stationer, a brawd arall dienw. Cyfranodd y chwech brodyr hyn, gyd-rhyngddynt, y swm o £75, yr eglwys hefyd a'r gynnulleidfa a gyfranasant y cyffelyb swm, a thalwyd y flwyddyn hono o gorff yr arian £134, heblaw y llôgau. Mae yn ymddangos i'r cyffelyb ymdrech gael ei gwneyd y drydedd waith, ac i rai brodyr sydd eto yn fyw, sef y Parch. T. Francis, Mr. Daniel Jones, merchant, a Mr. R. Hughes, yn yr ymdrechfa hono ddyfod allan mewn haelfrydedd y tuhwnt i bob dysgwyliad. Yn y flwyddyn 1843, gwnaed dros bedwar ugain a deg o bersonau yn wahanol ddosbarthiadau, i dalu symiau gwahanol yn y pedair blynedd dyfodol. Rhai i dalu tair punt yn y flwyddyn, eraill ddwy, eraill bunt a hanner, eraill bunt, eraill ddeg swllt, eraill
Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/60
Gwedd